Hen Destament

Testament Newydd

Luc 8:36-44 beibl.net 2015 (BNET)

36. Dwedodd y llygad-dystion eto sut roedd y dyn yng ngafael cythreuliaid wedi cael ei iacháu.

37. Felly ar ôl hynny dyma bobl ardal Gerasa i gyd yn gofyn i Iesu adael, achos roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Felly aeth Iesu yn ôl i'r cwch.

38. Dyma'r dyn roedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn erfyn am gael aros gydag e, ond dyma Iesu yn ei anfon i ffwrdd a dweud wrtho,

39. “Dos yn ôl adre i ddweud am y cwbl mae Duw wedi ei wneud i ti.” Felly i ffwrdd â'r dyn, a dweud wrth bawb yn y dref am bopeth roedd Iesu wedi ei wneud iddo.

40. Pan aeth Iesu yn ôl i ochr draw'r llyn, roedd tyrfa yno i'w groesawu – roedden nhw wedi bod yn disgwyl amdano.

41. Dyma ddyn o'r enw Jairus, un o arweinwyr y synagog, yn dod ato. Syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a chrefu'n daer arno i fynd i'w dŷ.

42. Roedd ei ferch fach ddeuddeg oed, oedd yn unig blentyn, yn marw. Wrth iddo fynd, roedd y dyrfa yn gwasgu o'i gwmpas.

43. Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd, a doedd neb yn gallu ei gwella.

44. Sleifiodd at Iesu o'r tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn, a dyma'r gwaedu yn stopio'n syth.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 8