Hen Destament

Testament Newydd

Luc 7:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ar ôl i Iesu orffen dweud hyn i gyd wrth y bobl, aeth i mewn i Capernaum.

2. Roedd gwas i swyddog milwrol Rhufeinig yn sâl ac ar fin marw. Roedd gan ei feistr feddwl uchel iawn ohono.

3. Pan glywodd y swyddog Rhufeinig am Iesu, anfonodd rai o'r arweinwyr Iddewig ato i ofyn iddo ddod i iacháu'r gwas.

4. Dyma nhw'n dod at Iesu ac yn pledio arno i helpu'r dyn. “Mae'r dyn yma yn haeddu cael dy help di.

5. Mae e'n caru ein pobl ni ac wedi adeiladu synagog i ni,” medden nhw.

6. Felly dyma Iesu'n mynd gyda nhw. Roedd Iesu bron â chyrraedd y tŷ pan anfonodd y swyddog Rhufeinig rai o'i ffrindiau i ddweud wrtho: “Arglwydd, paid trafferthu dod yma, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i.

7. Dyna pam wnes i ddim dod i dy gyfarfod di fy hun. Does ond rhaid i ti ddweud, a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu.

8. Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr o danaf fi. Dw i'n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae'n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae'n dod. Dw i'n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae'n ei wneud.”

9. Roedd Iesu wedi ei syfrdanu pan glywodd hyn. Trodd at y dyrfa oedd yn ei ddilyn, ac meddai, “Dw i'n dweud wrthoch chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna!”

10. Dyma'r dynion oedd wedi eu hanfon ato yn mynd yn ôl i'r tŷ, a dyna lle roedd y gwas yn holliach!

11. Yn fuan wedyn, dyma Iesu'n mynd i dref o'r enw Nain. Roedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr o bobl gydag e.

12. Pan oedd ar fin cyrraedd giât y dref roedd pobl mewn angladd ar y ffordd allan. Bachgen ifanc oedd wedi marw – unig fab rhyw wraig weddw. Roedd tyrfa fawr o bobl y dre yn yr angladd.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 7