Hen Destament

Testament Newydd

Luc 5:3-16 beibl.net 2015 (BNET)

3. Aeth i mewn i un o'r cychod, a gofyn i Simon, y perchennog, ei wthio allan ychydig oddi wrth y lan. Yna eisteddodd a dechrau dysgu'r bobl o'r cwch.

4. Pan oedd wedi gorffen siarad dwedodd wrth Simon, “Dos â'r cwch allan lle mae'r dŵr yn ddwfn, a gollwng y rhwydi i ti gael dalfa o bysgod.”

5. “Meistr,” meddai Simon wrtho, “buon ni'n gweithio'n galed drwy'r nos neithiwr heb ddal dim byd! Ond am mai ti sy'n gofyn, gollynga i y rhwydi.”

6. Dyna wnaethon nhw a dyma nhw'n dal cymaint o bysgod nes i'r rhwydi ddechrau rhwygo.

7. Dyma nhw'n galw ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w helpu. Pan ddaeth y rheiny, cafodd y ddau gwch eu llenwi â chymaint o bysgod nes eu bod bron â suddo!

8. Pan welodd Simon Pedr beth oedd wedi digwydd, syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a dweud, “Dos i ffwrdd oddi wrtho i, Arglwydd; dw i'n ormod o bechadur!”

9. Roedd Simon a'i gydweithwyr wedi dychryn wrth weld faint o bysgod gafodd eu dal;

10. ac felly hefyd partneriaid Simon – Iago ac Ioan, meibion Sebedeus. Dyma Iesu'n dweud wrth Simon, “Paid bod ofn; o hyn ymlaen byddi di'n dal pobl yn lle pysgod.”

11. Felly ar ôl llusgo eu cychod i'r lan, dyma nhw'n gadael popeth i fynd ar ei ôl.

12. Yn un o'r trefi dyma Iesu'n cyfarfod dyn oedd â gwahanglwyf dros ei gorff i gyd. Pan welodd hwnnw Iesu, syrthiodd ar ei wyneb ar lawr a chrefu am gael ei iacháu, “Arglwydd, gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”

13. Dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!” A'r eiliad honno dyma'r gwahanglwyf yn diflannu.

14. Ar ôl ei rybuddio i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd, dyma Iesu'n dweud wrtho, “Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad. Ac fel y dwedodd Moses, dos ag offrwm gyda ti, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”

15. Ond roedd y newyddion amdano yn mynd ar led fwy a mwy. Roedd tyrfaoedd mawr o bobl yn dod i wrando arno ac i gael eu hiacháu.

16. Ond byddai Iesu'n aml yn mynd o'r golwg i leoedd unig yn yr anialwch i weddïo.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 5