Hen Destament

Testament Newydd

Luc 5:24-34 beibl.net 2015 (BNET)

24. Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear.” A dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi ei barlysu a dweud wrtho, “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.”

25. A dyna'n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed o flaen pawb yn y fan a'r lle, cymryd y fatras roedd wedi bod yn gorwedd arni, ac aeth adre gan foli Duw.

26. Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr ac roedden nhw hefyd yn moli Duw. “Dŷn ni wedi gweld pethau anhygoel heddiw,” medden nhw.

27. Ar ôl hyn aeth Iesu allan a gwelodd un oedd yn casglu trethi i Rufain, dyn o'r enw Lefi, yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho;

28. a dyma Lefi'n codi ar unwaith, gadael popeth, a mynd ar ei ôl.

29. Dyma Lefi yn trefnu parti mawr i Iesu yn ei dŷ, ac roedd criw mawr o ddynion oedd yn casglu trethi i Rufain a phobl eraill yno'n bwyta gyda nhw.

30. Ond dyma'r Phariseaid a'u harbenigwyr nhw yn y Gyfraith yn cwyno i'w ddisgyblion, “Pam dych chi'n bwyta ac yfed gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?”

31. Dyma Iesu'n eu hateb nhw, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl.

32. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid i droi at Dduw, dim y rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.”

33. Dyma nhw'n dweud wrth Iesu, “Mae disgyblion Ioan yn ymprydio ac yn gweddïo'n aml, a disgyblion y Phariseaid yr un fath. Pam mae dy rai di yn dal ati i fwyta ac yfed drwy'r adeg?”

34. Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi'n gorfodi pobl sy'n mynd i wledd briodas i ymprydio? Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab!

Darllenwch bennod gyflawn Luc 5