Hen Destament

Testament Newydd

Luc 4:8-21 beibl.net 2015 (BNET)

8. Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e yn unig.’”

9. Dyma'r diafol yn mynd â Iesu i Jerwsalem a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma.

10. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion dy gadw'n saff;

11. byddan nhw'n dy ddal yn eu breichiau, fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’”

12. Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’”

13. Pan oedd y diafol wedi ceisio temtio Iesu bob ffordd bosib, gadawodd iddo nes i gyfle arall godi.

14. Aeth Iesu yn ôl i Galilea yn llawn o nerth yr Ysbryd, ac aeth y sôn amdano ar led drwy'r ardal gyfan.

15. Roedd yn dysgu yn y synagogau, ac yn cael ei ganmol gan bawb.

16. A daeth i Nasareth, lle cafodd ei fagu, a mynd i'r synagog ar y Saboth fel roedd yn arfer ei wneud. Safodd ar ei draed i ddarllen o'r ysgrifau sanctaidd.

17. Sgrôl proffwydoliaeth Eseia gafodd ei roi iddo, a dyma fe'n ei hagor, a dod o hyd i'r darn sy'n dweud:

18. “Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i, oherwydd mae wedi fy eneinio i i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy'n gaeth i gael rhyddid, a pobl sy'n ddall i gael eu golwg yn ôl, a'r rhai sy'n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr,

19. a dweud hefyd fod y flwyddyn i'r Arglwydd ddangos ei ffafr wedi dod.”

20. Caeodd y sgrôl a'i rhoi yn ôl i'r dyn oedd yn arwain yr oedfa yn y synagog, ac yna eisteddodd. Roedd pawb yn y synagog yn syllu arno.

21. Yna dwedodd, “Mae'r geiriau yma o'r ysgrifau sanctaidd wedi dod yn wir heddiw.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 4