Hen Destament

Testament Newydd

Luc 4:35-44 beibl.net 2015 (BNET)

35. “Bydd ddistaw!” meddai Iesu'n ddig. “Tyrd allan ohono!” A dyma'r cythraul yn taflu'r dyn ar lawr o flaen pawb, yna daeth allan ohono heb wneud dim mwy o niwed iddo.

36. Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn, “Beth sy'n mynd ymlaen? Mae ganddo'r fath awdurdod! Mae hyd yn oed yn gallu gorfodi ysbrydion drwg i ufuddhau iddo a dod allan o bobl!”

37. Aeth y newyddion amdano ar led fel tân gwyllt drwy'r ardal i gyd.

38. Dyma Iesu'n gadael y synagog ac yn mynd i gartref Simon. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn sâl iawn gyda gwres uchel. Dyma nhw'n gofyn i Iesu ei helpu hi.

39. Plygodd Iesu drosti a gorchymyn i'r gwres i fynd, a diflannodd y tymheredd oedd ganddi yn y fan a'r lle! Yna dyma hi'n codi o'i gwely a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw.

40. Ar ôl i'r haul fachlud roedd y Saboth drosodd, a daeth pobl at Iesu gyda'u perthnasau oedd yn dioddef o bob math o salwch. Roedd yn eu hiacháu drwy roi ei ddwylo ar bob un ohonyn nhw.

41. A daeth cythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedden nhw'n gweiddi, “Mab Duw wyt ti!” am eu bod yn gwybod yn iawn mai Iesu oedd y Meseia, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud dim byd mwy.

42. Wrth iddi wawrio y bore wedyn aeth Iesu i ffwrdd i le unig. Roedd tyrfaoedd o bobl yn edrych amdano, ac ar ôl ei gael dyma nhw'n ceisio ei stopio rhag mynd.

43. Ond meddai Iesu, “Rhaid i mi gyhoeddi'r newyddion da am Dduw yn teyrnasu yn y trefi eraill hefyd. Dyna pam dw i wedi cael fy anfon yma.”

44. Felly aeth ati i bregethu yn y synagogau drwy wlad Jwdea.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 4