26. Ond chafodd Elias mo'i anfon at yr un ohonyn nhw. Cafodd ei anfon at wraig o wlad arall – gwraig weddw yn Sareffat yn ardal Sidon!
27. Ac roedd llawer o bobl yn Israel yn dioddef o'r gwahanglwyf pan oedd y proffwyd Eliseus yn fyw. Ond Naaman o wlad Syria oedd yr unig un gafodd ei iacháu!”
28. Roedd pawb yn y synagog wedi gwylltio wrth ei glywed yn dweud hyn.
29. Dyma nhw'n codi ar eu traed a gyrru Iesu allan o'r dref i ben y bryn roedd y dre wedi ei hadeiladu arno. Roedden nhw'n bwriadu ei daflu dros y clogwyn,
30. ond llwyddodd i fynd drwy ganol y dyrfa ac aeth ymlaen ar ei daith.
31. Aeth i Capernaum, un o drefi Galilea, a dechrau dysgu'r bobl yno ar y Saboth.
32. Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu, am fod ei neges yn gwneud i bobl wrando arno.
33. Un tro dyma rhyw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi ei feddiannu gan gythraul, hynny ydy ysbryd drwg).
34. “Aaaaar! Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i'n dinistrio ni. Dw i'n gwybod pwy wyt ti – Un Sanctaidd Duw!”