Hen Destament

Testament Newydd

Luc 4:1-16 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd Iesu'n llawn o'r Ysbryd Glân pan aeth yn ôl o ardal yr Iorddonen. Gadawodd i'r Ysbryd ei arwain i'r anialwch,

2. lle cafodd ei demtio gan y diafol am bedwar deg diwrnod. Wnaeth Iesu ddim bwyta o gwbl yn ystod y dyddiau yna, ac erbyn y diwedd roedd yn llwgu.

3. Dyma'r diafol yn dweud wrtho, “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i'r garreg yma droi'n dorth o fara.”

4. Atebodd Iesu, “Na! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud ‘Dim bwyd ydy'r unig beth mae pobl ei angen i fyw.’”

5. Dyma'r diafol yn ei arwain i le uchel ac yn dangos holl wledydd y byd iddo mewn eiliad.

6. Ac meddai'r diafol wrtho, “Gwna i adael i ti reoli'r rhain i gyd, a chael eu cyfoeth nhw hefyd. Mae'r cwbl wedi eu rhoi i mi, ac mae gen i hawl i'w rhoi nhw i bwy bynnag dw i'n ei ddewis.

7. Felly, os gwnei di fy addoli i, cei di'r cwbl.”

8. Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e yn unig.’”

9. Dyma'r diafol yn mynd â Iesu i Jerwsalem a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma.

10. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion dy gadw'n saff;

11. byddan nhw'n dy ddal yn eu breichiau, fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’”

12. Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’”

13. Pan oedd y diafol wedi ceisio temtio Iesu bob ffordd bosib, gadawodd iddo nes i gyfle arall godi.

14. Aeth Iesu yn ôl i Galilea yn llawn o nerth yr Ysbryd, ac aeth y sôn amdano ar led drwy'r ardal gyfan.

15. Roedd yn dysgu yn y synagogau, ac yn cael ei ganmol gan bawb.

16. A daeth i Nasareth, lle cafodd ei fagu, a mynd i'r synagog ar y Saboth fel roedd yn arfer ei wneud. Safodd ar ei draed i ddarllen o'r ysgrifau sanctaidd.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 4