Hen Destament

Testament Newydd

Luc 24:27-37 beibl.net 2015 (BNET)

27. A dyma Iesu'n mynd dros bopeth ac yn esbonio iddyn nhw beth roedd Moses a'r proffwydi eraill wedi ei ddweud amdano yn yr ysgrifau sanctaidd.

28. Pan oedden nhw bron â chyrraedd pen y daith, dyma Iesu'n dweud ei fod e'n mynd yn ei flaen.

29. Ond dyma nhw'n erfyn yn daer arno: “Tyrd i aros gyda ni dros nos; mae'n mynd yn hwyr.” Felly aeth i aros gyda nhw.

30. Pan oedden nhw'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta, cymerodd dorth o fara, ac adrodd gweddi o ddiolch cyn ei thorri a'i rhannu iddyn nhw.

31. Yn sydyn dyma nhw'n sylweddoli mai Iesu oedd gyda nhw, a'r foment honno diflannodd o'u golwg.

32. Dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Roedden ni'n teimlo rhyw wefr, fel petai'n calonnau ni ar dân, wrth iddo siarad â ni ar y ffordd ac esbonio beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud!”

33. Ymhen dim o amser roedden nhw ar eu ffordd yn ôl i Jerwsalem. Dyma nhw'n dod o hyd i'r unarddeg disgybl a phawb arall gyda nhw,

34. a'r peth cyntaf gafodd ei ddweud wrthyn nhw oedd, “Mae'n wir! Mae'r Arglwydd wedi dod yn ôl yn fyw. Mae Simon Pedr wedi ei weld!”

35. Yna dyma'r ddau yn dweud beth oedd wedi digwydd iddyn nhw ar eu taith, a sut wnaethon nhw sylweddoli pwy oedd Iesu wrth iddo dorri'r bara.

36. Roedden nhw'n dal i siarad am y peth pan ddaeth Iesu a sefyll yn y canol. “Shalôm!” meddai wrthyn nhw.

37. Roedden nhw wedi cael braw. Roedden nhw'n meddwl eu bod nhw'n gweld ysbryd.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 24