Hen Destament

Testament Newydd

Luc 24:18-32 beibl.net 2015 (BNET)

18. A dyma Cleopas, un ohonyn nhw, yn dweud, “Mae'n rhaid mai ti ydy'r unig berson yn Jerwsalem sydd ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd y dyddiau dwetha yma!”

19. “Gwybod beth?” gofynnodd. “Beth sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Roedd yn broffwyd i Dduw ac yn siaradwr gwych, ac roedd pawb wedi ei weld yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol.

20. Ond dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr crefyddol eraill yn ei arestio a'i drosglwyddo i'r Rhufeiniaid i gael ei ddedfrydu i farwolaeth, a'i groeshoelio.

21. Roedden ni wedi gobeithio mai fe oedd y Meseia oedd yn mynd i ennill rhyddid i Israel. Digwyddodd hynny echdoe – Ond mae yna fwy …

22. Yn gynnar y bore ma dyma rai o'r merched oedd gyda ni yn mynd at y bedd lle roedd ei gorff wedi cael ei osod,

23. ond doedd y corff ddim yno! Roedden nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld angylion, a bod y rheiny wedi dweud wrthyn nhw fod Iesu'n fyw.

24. Felly dyma rai o'r dynion oedd gyda ni yn mynd at y bedd i edrych, ac roedd popeth yn union fel roedd y gwragedd wedi dweud. Ond welon nhw ddim Iesu o gwbl.”

25. “Dych chi mor ddwl!” meddai Iesu wrth y ddau oedd e'n cerdded gyda nhw, “Pam dych chi'n ei chael hi mor anodd i gredu'r cwbl ddwedodd y proffwydi?

26. Maen nhw'n dweud fod rhaid i'r Meseia ddioddef fel hyn cyn iddo gael ei anrhydeddu!”

27. A dyma Iesu'n mynd dros bopeth ac yn esbonio iddyn nhw beth roedd Moses a'r proffwydi eraill wedi ei ddweud amdano yn yr ysgrifau sanctaidd.

28. Pan oedden nhw bron â chyrraedd pen y daith, dyma Iesu'n dweud ei fod e'n mynd yn ei flaen.

29. Ond dyma nhw'n erfyn yn daer arno: “Tyrd i aros gyda ni dros nos; mae'n mynd yn hwyr.” Felly aeth i aros gyda nhw.

30. Pan oedden nhw'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta, cymerodd dorth o fara, ac adrodd gweddi o ddiolch cyn ei thorri a'i rhannu iddyn nhw.

31. Yn sydyn dyma nhw'n sylweddoli mai Iesu oedd gyda nhw, a'r foment honno diflannodd o'u golwg.

32. Dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Roedden ni'n teimlo rhyw wefr, fel petai'n calonnau ni ar dân, wrth iddo siarad â ni ar y ffordd ac esbonio beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud!”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 24