Hen Destament

Testament Newydd

Luc 23:47-56 beibl.net 2015 (BNET)

47. Pan welodd y capten milwrol oedd yno beth ddigwyddodd, dechreuodd foli Duw a dweud, “Roedd y dyn yma'n siŵr o fod yn ddieuog!”

48. A phan welodd y dyrfa oedd yno beth ddigwyddodd, dyma nhw'n troi am adre'n galaru.

49. Ond arhosodd ei ffrindiau agos i wylio o bell beth oedd yn digwydd – gan gynnwys y gwragedd oedd wedi ei ddilyn o Galilea.

50. Roedd yna ddyn o'r enw Joseff oedd yn dod o dref Arimathea yn Jwdea. Roedd yn ddyn da a gonest, ac yn aelod o'r Sanhedrin Iddewig,

51. ond doedd e ddim wedi cytuno â'r penderfyniad wnaeth yr arweinwyr eraill. Roedd Joseff yn ddyn oedd yn disgwyl i Dduw ddod i deyrnasu.

52. Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu.

53. Tynnodd y corff i lawr a'i lapio gyda lliain ac yna ei roi i orwedd mewn bedd newydd oedd wedi ei naddu yn y graig – doedd neb erioed wedi ei gladdu yno o'r blaen.

54. Roedd hi'n hwyr bnawn dydd Gwener a'r Saboth ar fin dechrau.

55. Roedd y gwragedd o Galilea oedd gyda Iesu wedi dilyn Joseff, ac wedi gweld y bedd lle cafodd y corff ei osod.

56. Ar ôl mynd adre i baratoi cymysgedd o berlysiau a pheraroglau i eneinio'r corff, dyma nhw'n gorffwys dros y Saboth, fel mae Cyfraith Moses yn ei ddweud.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 23