Hen Destament

Testament Newydd

Luc 23:3-20 beibl.net 2015 (BNET)

3. Felly dyma Peilat yn dweud wrth Iesu, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?”“Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu.

4. Yna dyma Peilat yn troi at y prif offeiriaid a'r dyrfa ac yn cyhoeddi, “Dw i ddim yn credu fod unrhyw sail i ddwyn cyhuddiad yn erbyn y dyn yma.”

5. Ond roedden nhw'n benderfynol, “Mae'n creu helynt drwy Jwdea i gyd wrth ddysgu'r bobl. Dechreuodd yn Galilea, a nawr mae wedi dod yma.”

6. “Felly un o Galilea ydy e?” meddai Peilat.

7. Pan sylweddolodd hynny, anfonodd Iesu at Herod Antipas, gan ei fod yn dod o'r ardal oedd dan awdurdod Herod. (Roedd Herod yn digwydd bod yn Jerwsalem ar y pryd.)

8. Roedd Herod wrth ei fodd ei fod yn cael cyfle i weld Iesu. Roedd wedi clywed amdano ers amser maith, ac wedi bod yn gobeithio cael ei weld yn gwneud rhywbeth gwyrthiol.

9. Gofynnodd un cwestiwn ar ôl y llall i Iesu, ond roedd Iesu'n gwrthod ateb.

10. A dyna lle roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei gyhuddo'n ffyrnig.

11. Yna dyma Herod a'i filwyr yn dechrau gwneud hwyl am ei ben a'i sarhau. Dyma nhw'n ei wisgo mewn mantell grand, a'i anfon yn ôl at Peilat.

12. Cyn i hyn i gyd ddigwydd roedd Herod a Peilat wedi bod yn elynion, ond dyma nhw'n dod yn ffrindiau y diwrnod hwnnw.

13. Dyma Peilat yn galw'r prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, a'r bobl at ei gilydd,

14. a chyhoeddi ei ddedfryd: “Daethoch â'r dyn yma i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o fod yn arwain gwrthryfel. Dw i wedi ei groesholi o'ch blaen chi i gyd, a dw i'n ei gael yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau.

15. Ac mae'n amlwg fod Herod wedi dod i'r un casgliad gan ei fod wedi ei anfon yn ôl yma. Dydy e ddim wedi gwneud unrhyw beth i haeddu marw.

16. Felly dysga i wers iddo â'r chwip ac yna ei ollwng yn rhydd.”

18. Dyma nhw i gyd yn gweiddi gyda'i gilydd, “Lladda fe! Gollwng Barabbas yn rhydd!”

19. (Roedd Barabbas yn y carchar am godi terfysg yn Jerwsalem ac am lofruddiaeth.)

20. Dyma Peilat yn eu hannerch nhw eto. Roedd e eisiau gollwng Iesu yn rhydd.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 23