59. Yna ryw awr yn ddiweddarach dyma rywun arall eto yn dweud, “Does dim amheuaeth fod hwn gyda Iesu; mae'n amlwg ei fod yn dod o Galilea.”
60. Atebodd Pedr, “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti'n sôn, ddyn!” A dyma'r ceiliog yn canu wrth iddo ddweud y peth.
61. Dyma'r Arglwydd Iesu yn troi ac yn edrych yn syth ar Pedr. Yna cofiodd Pedr beth roedd yr Arglwydd wedi ei ddweud: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu.”
62. Aeth allan yn beichio crïo.
63. Dyma'r milwyr oedd yn cadw Iesu yn y ddalfa yn dechrau gwneud hwyl ar ei ben a'i guro.
64. Dyma nhw'n rhoi mwgwd arno ac yna ei daro a dweud wrtho, “Tyrd, Proffwyda! Pwy wnaeth dy daro di y tro yna?”
65. Roedden nhw'n ei regi ac yn hyrddio pob math o enllibion ato.
66. Pan oedd hi'n gwawrio dyma'r Sanhedrin yn cyfarfod, hynny ydy, yr arweinwyr oedd yn brif-offeiriaid neu'n arbenigwyr yn y Gyfraith. A dyma Iesu'n cael ei osod o'u blaenau nhw.
67. “Dywed wrthon ni ai ti ydy'r Meseia,” medden nhw. Atebodd Iesu, “Fyddech chi ddim yn credu taswn i yn dweud.
68. A taswn i'n gofyn y cwestiwn i chi, wnaech chi ddim ateb.
69. Ond o hyn ymlaen, bydd Mab y Dyn yn llywodraethu gyda'r Duw grymus.”
70. “Felly wyt ti'n dweud mai ti ydy Mab Duw?” medden nhw gyda'i gilydd.“Chi sydd wedi dweud y peth,” meddai.
71. A dyma nhw'n dweud, “Pam mae angen tystiolaeth bellach? Dŷn ni wedi ei glywed yn dweud y peth ei hun.”