Hen Destament

Testament Newydd

Luc 22:51-61 beibl.net 2015 (BNET)

51. “Stopiwch! Dyna ddigon!” meddai Iesu. Yna cyffyrddodd glust y dyn a'i iacháu.

52. Yna dwedodd wrth y prif offeiriaid, swyddogion diogelwch y deml a'r arweinwyr eraill oedd wedi dod i'w ddal, “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth? Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma?

53. Pam na ddalioch chi fi yn y deml? Roeddwn i yno gyda chi bob dydd! Ond dyma'ch cyfle chi – yr amser pan mae pwerau'r tywyllwch yn rheoli.”

54. Dyma nhw'n gafael ynddo, a mynd ag e i dŷ'r archoffeiriad. Roedd Pedr yn eu dilyn o bell.

55. Ond yna ar ôl iddyn nhw gynnau tân yng nghanol yr iard dyma Pedr yn mynd yno ac yn eistedd gyda nhw.

56. Dyma un o'r morynion yn sylwi ei fod yn eistedd yno. Edrychodd hi'n ofalus arno yng ngolau'r tân, ac yna dweud, “Roedd y dyn yma gyda Iesu!”

57. Ond gwadu wnaeth Pedr. “Dw i ddim yn nabod y dyn, ferch!” meddai.

58. Yna ychydig yn ddiweddarach dyma rywun arall yn sylwi arno ac yn dweud, “Rwyt ti'n un ohonyn nhw!”“Na dw i ddim!” atebodd Pedr.

59. Yna ryw awr yn ddiweddarach dyma rywun arall eto yn dweud, “Does dim amheuaeth fod hwn gyda Iesu; mae'n amlwg ei fod yn dod o Galilea.”

60. Atebodd Pedr, “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti'n sôn, ddyn!” A dyma'r ceiliog yn canu wrth iddo ddweud y peth.

61. Dyma'r Arglwydd Iesu yn troi ac yn edrych yn syth ar Pedr. Yna cofiodd Pedr beth roedd yr Arglwydd wedi ei ddweud: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 22