Hen Destament

Testament Newydd

Luc 22:4-19 beibl.net 2015 (BNET)

4. Aeth Jwdas at y prif offeiriaid a swyddogion diogelwch y deml, i drafod sut y gallai fradychu Iesu iddyn nhw.

5. Roedden nhw wrth eu bodd, a dyma nhw'n addo rhoi arian iddo.

6. Cytunodd yntau a dechrau edrych am gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw pan oedd y dyrfa ddim o gwmpas.

7. Daeth diwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan roedd rhaid aberthu oen y Pasg).

8. Dyma Iesu'n anfon Pedr ac Ioan yn eu blaenau i wneud y trefniadau. “Ewch i baratoi swper y Pasg i ni, er mwyn i ni i gyd gael bwyta gyda'n gilydd,” meddai wrthyn nhw.

9. “Ble rwyt ti am i ni fynd i'w baratoi?” medden nhw wrtho.

10. Atebodd e, “Wrth i chi fynd i mewn i'r ddinas bydd dyn yn dod i'ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl

11. i mewn i'r tŷ y bydd yn mynd iddo, a gofyn i'r perchennog, ‘Mae'r athro eisiau gwybod ble mae'r ystafell westai, iddo ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion.’

12. Bydd yn mynd â chi i fyny'r grisiau i ystafell fawr wedi ei pharatoi'n barod. Gwnewch swper i ni yno.”

13. I ffwrdd â nhw, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw'n paratoi swper y Pasg yno.

14. Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd, a'i apostolion gydag e.

15. Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi edrych ymlaen yn fawr at gael bwyta'r swper Pasg yma gyda chi cyn i mi ddioddef.

16. Dw i'n dweud wrthoch chi y bydda i ddim yn ei fwyta eto nes i'r cwbl gael ei gyflawni pan ddaw Duw i deyrnasu.”

17. Yna cymerodd gwpan o win, adrodd gweddi o ddiolch, ac yna dweud wrth ei ddisgyblion, “Cymerwch hwn a'i rannu rhyngoch.

18. Dw i'n dweud wrthoch chi, fydda i ddim yn yfed gwin eto nes i Dduw ddod i deyrnasu.”

19. Yna cymerodd dorth o fara, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Dyma fy nghorff i, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 22