Hen Destament

Testament Newydd

Luc 22:27-41 beibl.net 2015 (BNET)

27. Pwy ydy'r pwysica fel arfer? Ai'r sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r sawl sy'n gwasanaethu? Y sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd wrth gwrs! Ond dw i yma fel un sy'n gwasanaethu.

28. “Dych chi wedi sefyll gyda mi drwy'r treialon,

29. a dw i'n mynd i roi hawl i chi deyrnasu yn union fel gwnaeth y Tad ei roi i mi.

30. Cewch chi fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i pan fydda i'n teyrnasu, a byddwch yn eistedd ar orseddau i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel.

31. “Simon, Simon – mae Satan wedi bod eisiau eich cymryd chi i gyd i'ch ysgwyd a'ch profi chi fel mae us yn cael ei wahanu oddi wrth y gwenith.

32. Ond dw i wedi gweddïo drosot ti, Simon, y byddi di ddim yn colli dy ffydd. Felly pan fyddi di wedi troi'n ôl dw i eisiau i ti annog a chryfhau'r lleill.”

33. “Ond Arglwydd,” meddai Pedr, “dw i'n fodlon mynd i'r carchar neu hyd yn oed farw drosot ti!”

34. “Pedr,” meddai'r Arglwydd wrtho, “gwranda'n ofalus ar beth dw i'n ei ddweud. Cyn i'r ceiliog ganu bore fory byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di hyd yn oed yn fy nabod i.”

35. Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'w ddisgyblion, “Pan wnes i'ch anfon chi allan heb bwrs na bag teithio na sandalau sbâr, fuoch chi'n brin o gwbl?”“Naddo,” medden nhw.

36. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Ond nawr, ewch â'ch pwrs a'ch bag gyda chi; ac os oes gynnoch chi ddim cleddyf, gwerthwch eich côt i brynu un.

37. Mae'r broffwydoliaeth sy'n dweud, ‘Roedd yn cael ei ystyried yn un o'r gwrthryfelwyr’, yn mynd i ddod yn wir. Ydy, mae'r cwbl sydd wedi ei ysgrifennu amdana i yn yr ysgrifau sanctaidd yn mynd i ddod yn wir.”

38. “Edrych, Arglwydd,” meddai'r disgyblion, “mae gynnon ni ddau gleddyf yn barod!”“Dyna ddigon!” meddai.

39. Dyma Iesu'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd eto, fel roedd wedi gwneud bob nos. Ac aeth ei ddisgyblion ar ei ôl.

40. Pan gyrhaeddodd lle roedd yn mynd, dwedodd wrthyn nhw, “Gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi.”

41. Yna aeth yn ei flaen dafliad carreg, a mynd ar ei liniau a dechrau gweddïo,

Darllenwch bennod gyflawn Luc 22