Hen Destament

Testament Newydd

Luc 20:8-26 beibl.net 2015 (BNET)

8. “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.

9. Aeth yn ei flaen i ddweud y stori yma wrth y bobl: “Roedd dyn wedi plannu gwinllan. Gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd am amser hir.

10. Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin anfonodd un o'i weision i nôl y siâr roedd y tenantiaid i fod i'w rhoi iddo. Ond dyma'r tenantiaid yn curo'r gwas a'i anfon i ffwrdd heb ddim.

11. Felly dyma'r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw'n curo hwnnw hefyd a'i gam-drin a'i anfon i ffwrdd heb ddim.

12. Pan anfonodd was arall eto, dyma nhw'n anafu hwnnw'n ddifrifol a'i daflu allan.

13. “‘Beth wna i?’ meddai'r dyn oedd biau'r winllan. ‘Dw i'n gwybod! Anfona i fy mab annwyl atyn nhw. Byddan nhw'n ei barchu e.’

14. “Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan i ni'n hunain!’

15. Felly dyma nhw'n ei daflu allan o'r winllan a'i ladd. Felly beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud iddyn nhw?

16. Bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid hynny ac yn rhoi'r winllan i bobl eraill.”Pan glywodd y bobl y stori yma, eu hymateb oedd, “Na! Byth!”

17. Edrychodd Iesu i fyw eu llygaid, ac meddai, “Felly beth ydy ystyr y geiriau yma o'r ysgrifau sanctaidd: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen’ ?

18. Bydd pawb sy'n baglu dros y garreg honno yn dryllio'n ddarnau, a bydd pwy bynnag mae'r garreg yn syrthio arno yn cael ei fathru.”

19. Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r prif offeiriaid yn gwybod yn iawn ei fod yn sôn amdanyn nhw yn y stori. Roedden nhw eisiau gafael ynddo yn y fan a'r lle, ond roedd arnyn nhw ofn y bobl.

20. Roedden nhw'n ei wylio'n ofalus, a dyma nhw'n anfon dynion ato oedd yn cymryd arnynt eu bod yn ddidwyll. Roedden nhw'n gobeithio dal Iesu yn dweud rhywbeth o'i le, ac wedyn bydden nhw'n gallu dod â chyhuddiad yn ei erbyn o flaen y llywodraethwr Rhufeinig.

21. Felly dyma'r rhai gafodd eu hanfon i geisio ei dwyllo yn gofyn iddo, “Athro, dŷn ni'n gwybod fod yr hyn rwyt ti'n ei ddweud ac yn ei ddysgu yn wir. Dwyt ti ddim yn dangos ffafriaeth, ac rwyt ti'n dysgu ffordd Duw ac yn glynu wrth yr hyn sy'n wir.

22. Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?”

23. Ond roedd Iesu'n gweld eu bod yn ceisio'i dwyllo.

24. “Dewch â darn arian yma,” meddai wrthyn nhw. “Llun pwy sydd arno? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?”“Cesar,” medden nhw.

25. “Felly,” meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.”

26. Felly roedden nhw wedi methu ei gael i ddweud unrhyw beth o'i le o flaen y bobl. Roedd ei ateb wedi eu syfrdanu'n llwyr – doedden nhw ddim yn gallu dweud dim.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 20