Hen Destament

Testament Newydd

Luc 2:45-52 beibl.net 2015 (BNET)

45. ond methu dod o hyd iddo. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem i edrych amdano.

46. Roedd hi'r trydydd diwrnod cyn iddyn nhw ddod o hyd iddo! Roedd wedi bod yn y deml, yn eistedd gyda'r athrawon ac yn gwrando arnyn nhw ac yn gofyn cwestiynau.

47. Roedd pawb welodd e yn rhyfeddu gymaint roedd yn ei ddeall.

48. Cafodd ei rieni y fath sioc pan ddaethon nhw o hyd iddo, a dyma'i fam yn gofyn iddo, “Machgen i, pam rwyt ti wedi gwneud hyn i ni? Mae dy dad a fi wedi bod yn poeni'n ofnadwy ac yn chwilio ym mhobman amdanat ti.”

49. Gofynnodd Iesu iddyn nhw, “Pam roedd rhaid i chi chwilio? Wnaethoch chi ddim meddwl y byddwn i'n siŵr o fod yn nhŷ fy Nhad?”

50. Ond doedd ei rieni ddim wir yn deall beth roedd yn ei olygu.

51. Felly aeth Iesu yn ôl i Nasareth gyda nhw a bu'n ufudd iddyn nhw. Roedd Mair yn cofio pob manylyn o beth ddigwyddodd, a beth gafodd ei ddweud.

52. Tyfodd Iesu'n fachgen doeth a chryf. Roedd ffafr Duw arno, ac roedd pobl hefyd yn hoff iawn ohono.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 2