Hen Destament

Testament Newydd

Luc 18:30-43 beibl.net 2015 (BNET)

30. yn derbyn llawer iawn mwy yn y bywyd yma. Ac yn yr oes sydd i ddod byddan nhw'n derbyn bywyd tragwyddol!”

31. Aeth Iesu â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr, a dweud wrthyn nhw, “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, daw'r cwbl mae'r proffwydi wedi ei ysgrifennu amdana i, Mab y Dyn, yn wir.

32. Bydda i'n cael fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid. Byddan nhw'n gwneud sbort ar fy mhen, yn fy ngham-drin, ac yn poeri arna i.

33. Yna bydda i'n cael fy chwipio a'm lladd. Ond yna, ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw.”

34. Doedd y disgyblion ddim yn deall hyn o gwbl. Roedd y cwbl yn ddirgelwch pur iddyn nhw, a doedd ganddyn nhw ddim syniad am beth roedd e'n siarad.

35. Pan oedd Iesu'n agosáu at Jericho dyma ddyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd

36. yn clywed sŵn tyrfa o bobl yn pasio heibio, a dyma fe'n gofyn, “Beth sy'n digwydd?”

37. “Iesu o Nasareth sy'n pasio heibio,” meddai rhywun wrtho.

38. Felly dyma'r dyn dall yn gweiddi'n uchel, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”

39. “Cau dy geg!” meddai'r bobl oedd ar flaen y dyrfa. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi'n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”

40. Dyma Iesu'n stopio, ac yn dweud wrthyn nhw am ddod â'r dyn ato. Pan ddaeth ato, gofynnodd i'r dyn,

41. “Beth ga i wneud i ti?”“Arglwydd,” meddai, “dw i eisiau gallu gweld.”

42. Yna dwedodd Iesu wrtho, “Iawn, cei di weld; am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.”

43. Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu gan foli Duw. Ac roedd pawb welodd beth ddigwyddodd yn moli Duw hefyd!

Darllenwch bennod gyflawn Luc 18