Hen Destament

Testament Newydd

Luc 18:10-28 beibl.net 2015 (BNET)

10. “Aeth dau ddyn i weddïo yn y deml. Pharisead oedd un ohonyn nhw, a'r llall yn ddyn oedd yn casglu trethi i Rufain.

11. Dyma'r Pharisead yn sefyll ar ei draed yn hyderus, a dyma oedd ei weddi: ‘O Dduw, dw i yn diolch i ti mod i ddim yr un fath â phobl eraill. Dw i ddim yn twyllo na gwneud dim byd drwg arall, a dw i ddim yn gwneud pethau anfoesol. Dw i ddim yr un fath â'r bradwr yma!

12. Dw i'n ymprydio ddwywaith yr wythnos ac yn rhoi un rhan o ddeg o bopeth sydd gen i i'r deml.’

13. “Ond roedd y casglwr trethi wedi mynd i sefyll mewn rhyw gornel ar ei ben ei hun. Doedd e ddim yn meiddio edrych i fyny hyd yn oed. Yn lle hynny roedd yn curo ei frest mewn cywilydd. Dyma oedd ei weddi e: ‘O Dduw, wnei di faddau i mi. Dw i'n bechadur ofnadwy.’

14. “Dw i'n dweud wrthoch chi mai'r casglwr trethi, dim y Pharisead, oedd yr un aeth adre a'i berthynas gyda Duw yn iawn. Bydd Duw yn torri crib pobl falch ac yn anrhydeddu'r rhai gostyngedig.”

15. Roedd pobl yn dod â'u babanod at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a'u bendithio. Ond pan welodd y disgyblion nhw, dyma nhw'n dweud y drefn wrthyn nhw.

16. Ond dyma Iesu'n eu galw nhw ato. “Gadewch i'r plant bach ddod ata i,” meddai, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad Duw.

17. Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o'r rhai mae Duw'n teyrnasu yn eu bywydau.”

18. Un tro gofynnodd rhyw arweinydd crefyddol y cwestiwn yma i Iesu: “Athro da, beth alla i ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”

19. “Pam wyt ti'n fy ngalw i'n dda?” meddai Iesu. “Onid Duw ydy'r unig un sy'n dda?

20. Ti'n gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid godinebu, paid llofruddio, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, gofala am dy dad a dy fam.’”

21. Atebodd y dyn, “Dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd ers pan o'n i'n fachgen ifanc.”

22. Pan glywodd Iesu hynny, dwedodd wrth y dyn, “Mae un peth arall ar ôl. Gwertha bopeth, dy eiddo i gyd, a rhannu'r arian gyda phobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”

23. Doedd y dyn ddim yn hapus o gwbl pan glywodd beth ddwedodd Iesu, am ei fod yn ddyn cyfoethog dros ben.

24. Edrychodd Iesu ar y dyn yn cerdded i ffwrdd, ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!

25. Mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!”

26. Dyma'r rhai glywodd hyn yn dweud, “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?”

27. Atebodd Iesu, “Mae Duw yn gallu gwneud beth sy'n amhosib i bobl ei wneud.”

28. Dyma Pedr yn ymateb, “Ond dŷn ni wedi gadael popeth sydd gynnon ni i dy ddilyn di!”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 18