Hen Destament

Testament Newydd

Luc 14:22-35 beibl.net 2015 (BNET)

22. “Pan ddaeth y gwas yn ôl dwedodd wrth ei feistr, ‘Syr, dw i wedi gwneud beth ddwedaist ti, ond mae yna fwy o le ar ôl o hyd.’

23. “Felly dyma'r meistr yn dweud, ‘Dos allan o'r ddinas, i'r ffyrdd a'r lonydd yng nghefn gwlad. Perswadia'r bobl sydd yno i ddod. Dw i eisiau i'r tŷ fod yn llawn.

24. Fydd yna ddim lle i neb o'r bobl hynny gafodd eu gwahodd! Fyddan nhw ddim yn cael tamaid o'r wledd dw i wedi ei threfnu.’”

25. Roedd tyrfa fawr o bobl yn teithio gyda Iesu, a dyma fe'n troi atyn nhw a dweud:

26. “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid i mi ddod o flaen popeth arall yn ei fywyd. Rhaid i'w gariad ata i wneud i bob perthynas arall edrych fel casineb! – ei dad a'i fam, ei wraig a'i blant, ei frodyr a'i chwiorydd – ie, hyd yn oed bywyd ei hun! Neu all e ddim bod yn ddisgybl i mi.

27. A does neb yn gallu bod yn ddisgybl i mi chwaith heb gario ei groes a cherdded yr un llwybr o hunanaberth.

28. “Does neb yn mynd ati i adeiladu adeilad mawr heb eistedd i lawr yn gyntaf i amcangyfri'r gost a gwneud yn siŵr fod ganddo ddigon o arian i orffen y gwaith.

29. Does dim pwynt iddo fynd ati i osod y sylfeini ac wedyn darganfod ei fod yn methu ei orffen. Byddai pawb yn gwneud hwyl ar ei ben,

30. ac yn dweud ‘Edrychwch, dyna'r dyn ddechreuodd y gwaith ar yr adeilad acw a methu ei orffen!’

31. “A dydy brenin ddim yn mynd i ryfel heb eistedd gyda'i gynghorwyr yn gyntaf, ac ystyried ydy hi'n bosib i'w fyddin o ddeg mil o filwyr drechu'r fyddin o ugain mil sy'n ymosod arno.

32. Os ydy'r peth yn amhosib bydd yn anfon swyddogion i geisio cytuno ar delerau heddwch – a hynny pan fydd byddin y gelyn yn dal yn bell i ffwrdd!

33. Dych chi yn yr un sefyllfa. All neb fod yn ddisgybl i mi heb roi heibio popeth arall er mwyn fy nilyn i.

34. “Mae halen yn ddefnyddiol, ond pan mae'n colli ei flas pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto?

35. Dydy e'n gwneud dim lles i'r pridd nac i'r domen dail; rhaid ei daflu i ffwrdd.“Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 14