Hen Destament

Testament Newydd

Luc 14:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Un Saboth, roedd Iesu wedi mynd am bryd o fwyd i gartref un o arweinwyr y Phariseaid. Roedd pawb yno'n ei wylio'n ofalus,

2. am fod dyn o'i flaen oedd a'i freichiau a'i goesau wedi chwyddo'n fawr am fod y dropsi arno.

3. Gofynnodd Iesu i'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, “Ydy'n iawn yn ôl y Gyfraith i iacháu ar y Saboth neu ddim?”

4. Ond wnaethon nhw ddim ateb. Felly dyma Iesu'n rhoi ei ddwylo ar y dyn, a'i iacháu ac yna ei anfon i ffwrdd.

5. Wedyn gofynnodd iddyn nhw, “Petai plentyn neu ychen un ohonoch chi yn syrthio i mewn i bydew ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i'w dynnu allan ar unwaith?”

6. Doedd ganddyn nhw ddim ateb.

7. Yna sylwodd Iesu hefyd fod y gwesteion i gyd yn ceisio cael y lleoedd gorau wrth y bwrdd. A dwedodd fel hyn wrthyn nhw:

8. “Pan wyt ti'n cael gwahoddiad i wledd briodas, paid bachu'r sedd orau wrth y bwrdd. Falle fod rhywun pwysicach na ti wedi cael gwahoddiad.

9. Wedyn byddai'n rhaid i'r sawl wnaeth dy wahodd di ofyn i ti symud – ‘Wnei di symud, i'r person yma gael eistedd.’ Am embaras! Gorfod symud i eistedd yn y sedd leia pwysig!

10. Mae'n llawer gwell i ti fynd ac eistedd yn y sedd honno, wedyn pan fydd y sawl roddodd wahoddiad i ti'n cyrraedd, bydd yn dweud, ‘Ffrind annwyl, tyrd yn nes, mae hon yn sedd well.’ Byddi di'n cael dy anrhydeddu yn lle cael dy gywilyddio o flaen y gwesteion eraill.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 14