Hen Destament

Testament Newydd

Luc 13:22-33 beibl.net 2015 (BNET)

22. Ar ei ffordd i Jerwsalem roedd Iesu'n galw yn y trefi a'r pentrefi i gyd ac yn dysgu'r bobl.

23. Dyma rywun yn gofyn iddo, “Arglwydd, ai dim ond ychydig bach o bobl sy'n mynd i gael eu hachub?” Dyma'i ateb:

24. “Gwnewch eich gorau glas i gael mynd drwy'r drws cul. Wir i chi, bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ond yn methu.

25. Pan fydd perchennog y tŷ wedi codi i gau'r drws, bydd hi'n rhy hwyr. Byddwch chi'n sefyll y tu allan yn curo ac yn pledio, ‘Syr, agor y drws i ni.’ Ond bydd yn ateb, ‘Dw i ddim yn gwybod pwy ydych chi.’

26. Byddwch chithau'n dweud, ‘Buon ni'n bwyta ac yn yfed gyda ti. Roeddet ti'n dysgu ar ein strydoedd ni.’

27. A bydd e'n ateb eto, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi i gyd!’

28. “Byddwch chi'n wylo'n chwerw ac mewn artaith, wrth weld Abraham, Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chi'ch hunain wedi eich taflu allan.

29. Bydd pobl yn dod o bob rhan o'r byd i wledda pan ddaw Duw i deyrnasu.

30. Yn wir bydd y rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen, a'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn.”

31. Yna daeth rhyw Phariseaid at Iesu a dweud wrtho, “Rhaid i ti ddianc o ma. Mae Herod Antipas eisiau dy ladd di.”

32. Atebodd Iesu, “Ewch i ddweud wrth y llwynog, ‘Bydda i'n bwrw cythreuliaid allan ac yn iacháu pobl heddiw a fory, a'r diwrnod wedyn bydda i wedi cyrraedd lle dw i'n mynd.’

33. Mae'n rhaid i mi ddal i fynd am dri diwrnod arall – does dim un proffwyd yn marw y tu allan i Jerwsalem!

Darllenwch bennod gyflawn Luc 13