Hen Destament

Testament Newydd

Luc 13:10-26 beibl.net 2015 (BNET)

10. Roedd Iesu'n dysgu yn un o'r synagogau ryw Saboth,

11. ac roedd gwraig yno oedd ag ysbryd drwg wedi ei gwneud hi'n anabl ers un deg wyth mlynedd. Roedd ei chefn wedi crymu nes ei bod yn methu sefyll yn syth o gwbl.

12. Dyma Iesu'n ei gweld hi ac yn ei galw draw ato. “Wraig annwyl,” meddai wrthi “rwyt ti'n mynd i gael dy iacháu o dy wendid.”

13. Yna rhoddodd ei ddwylo arni, a dyma ei chefn yn sythu yn y fan a'r lle. A dechreuodd foli Duw.

14. Ond roedd arweinydd y synagog wedi gwylltio am fod Iesu wedi iacháu ar y Saboth. Cododd a dweud wrth y bobl oedd yno, “Mae yna chwe diwrnod i weithio. Dewch i gael eich iacháu y dyddiau hynny, dim ar y Saboth!”

15. Ond meddai'r Arglwydd wrtho, “Rwyt ti mor ddauwynebog! Dych chi i gyd yn gollwng ychen ac asyn yn rhydd ar y Saboth, ac yn eu harwain at ddŵr!

16. Dyma i chi un o blant Abraham – gwraig wedi ei rhwymo gan Satan ers un deg wyth mlynedd! Onid ydy'n iawn iddi hi hefyd gael ei gollwng yn rhydd ar y Saboth?”

17. Roedd ei eiriau yn codi cywilydd ar ei wrthwynebwyr i gyd. Ond roedd y bobl gyffredin wrth eu bodd gyda'r holl bethau gwych roedd yn eu gwneud.

18. Gofynnodd Iesu, “Sut beth ydy teyrnasiad Duw? Sut alla i ei ddisgrifio?

19. Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei ardd. Tyfodd yn goeden, a daeth yr adar i nythu yn ei changhennau!”

20. A gofynnodd eto, “Sut beth ydy teyrnasiad Duw?

21. Mae fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd ac yn ei gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy'r toes i gyd.”

22. Ar ei ffordd i Jerwsalem roedd Iesu'n galw yn y trefi a'r pentrefi i gyd ac yn dysgu'r bobl.

23. Dyma rywun yn gofyn iddo, “Arglwydd, ai dim ond ychydig bach o bobl sy'n mynd i gael eu hachub?” Dyma'i ateb:

24. “Gwnewch eich gorau glas i gael mynd drwy'r drws cul. Wir i chi, bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ond yn methu.

25. Pan fydd perchennog y tŷ wedi codi i gau'r drws, bydd hi'n rhy hwyr. Byddwch chi'n sefyll y tu allan yn curo ac yn pledio, ‘Syr, agor y drws i ni.’ Ond bydd yn ateb, ‘Dw i ddim yn gwybod pwy ydych chi.’

26. Byddwch chithau'n dweud, ‘Buon ni'n bwyta ac yn yfed gyda ti. Roeddet ti'n dysgu ar ein strydoedd ni.’

Darllenwch bennod gyflawn Luc 13