Hen Destament

Testament Newydd

Luc 12:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn y cyfamser roedd tyrfa yn ymgasglu – miloedd o bobl yn ymwthio a sathru ar draed ei gilydd. Dyma Iesu'n siarad â'i ddisgyblion yn gyntaf, ac meddai wrthyn nhw: “Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid, sef y ffaith eu bod nhw mor ddauwynebog.

2. Bydd popeth sydd wedi ei guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu.

3. Bydd popeth ddwedoch chi o'r golwg yn cael ei glywed yng ngolau dydd, a beth gafodd ei sibrwd tu ôl i ddrysau caeëdig yn cael ei gyhoeddi'n uchel o bennau'r tai.

4. “Ffrindiau, peidiwch bod ofn pobl. Maen nhw'n gallu lladd eich corff chi, ond ddim mwy na hynny.

5. Gwrandwch, Duw ydy'r un i'w ofni – mae'r hawl ganddo fe i'ch taflu chi i uffern ar ôl lladd y corff! Ie, ofnwch Dduw!

6. Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi'n gallu prynu pump ohonyn nhw am newid mân! Ond mae Duw'n gofalu am bob un aderyn bach.

7. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to! Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi! Felly peidiwch bod ofn dim byd.

8. “Dych chi'n gallu bod yn siŵr o hyn: pwy bynnag sy'n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda i, Mab y Dyn, yn dweud yn agored o flaen angylion Duw fod y person hwnnw'n perthyn i mi.

9. Ond pwy bynnag sy'n gwadu ei fod yn credu ynof fi, bydda i'n gwadu o flaen angylion Duw fod y person hwnnw'n perthyn i mi.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 12