Hen Destament

Testament Newydd

Luc 11:8-26 beibl.net 2015 (BNET)

8. Ond wir i chi, er ei fod yn gwrthod codi i roi bara iddo am eu bod yn ffrindiau; am ei fod yn dal ati i ofyn bydd yn codi yn y diwedd, ac yn rhoi popeth mae e eisiau iddo.

9. “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch y drws a bydd yn cael ei agor.

10. Mae pawb sy'n gofyn yn derbyn; pawb sy'n chwilio yn cael; ac mae'r drws yn cael ei agor i bawb sy'n curo.

11. “Pwy ohonoch chi fyddai'n rhoi neidr i'ch plentyn pan mae'n gofyn am bysgodyn?

12. Neu sgorpion pan mae'n gofyn am ŵy? Wrth gwrs ddim!

13. Felly os ydych chi sy'n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i'ch plant, mae'r Tad nefol yn siŵr o roi'r Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn iddo!”

14. Roedd Iesu'n bwrw cythraul allan o ddyn oedd yn fud. Pan aeth y cythraul allan ohono dyma'r dyn yn dechrau siarad, ac roedd y bobl yno wedi eu syfrdanu.

15. Ond roedd rhai yn dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.”

16. Ac roedd eraill yn ceisio cael Iesu i brofi ei hun drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol.

17. Ond roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy eu meddyliau, ac meddai wrthyn nhw: “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd teulu sy'n ymladd â'i gilydd o hyd yn chwalu.

18. Os ydy Satan yn ymladd ei hun, a'i deyrnas wedi ei rhannu, sut mae'n bosib i'w deyrnas sefyll? Dw i'n gofyn y cwestiwn am eich bod chi'n honni mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid.

19. Felly os mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi, pwy sy'n rhoi'r gallu i'ch dilynwyr chi? Byddan nhw'n eich barnu chi!

20. Ond os mai Duw sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu.

21. “Pan mae dyn cryf arfog yn amddiffyn ei gartref, mae ei eiddo yn ddiogel.

22. Ond pan mae rhywun cryfach yn ymosod arno a'i drechu, mae'n cymryd ei arfau oddi ar y dyn, ac yn dwyn ei eiddo.

23. “Os dydy rhywun ddim ar fy ochr i, mae yn fy erbyn i. Ac os dydy rhywun ddim yn gweithio gyda mi, mae'n gweithio yn fy erbyn i.

24. “Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae'n mynd i grwydro lleoedd anial yn edrych am le i orffwys. Ond yna pan mae'n methu dod o hyd i rywle, mae'n meddwl, ‘Dw i am fynd yn ôl i lle roeddwn i'n byw.’

25. Mae'n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ wedi ei lanhau a'i dacluso trwyddo.

26. Wedyn mae'n mynd â saith ysbryd gwaeth na'i hun i fyw gydag e! Mae'r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau!”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 11