Hen Destament

Testament Newydd

Luc 11:43-51 beibl.net 2015 (BNET)

43. “Gwae chi'r Phariseaid! Dych chi wrth eich bodd yn cael y seddi pwysica yn y synagogau a chael pobl yn symud o'ch ffordd chi a'ch cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad.

44. “Gwae chi! Dych chi fel beddau mewn cae heb ddim arwydd i ddweud fod bedd yna, a phobl yn llygru eu hunain wrth gerdded drostyn nhw heb wybod beth maen nhw'n ei wneud!”

45. Dyma un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ymateb, “Athro, rwyt ti'n ein sarhau ni hefyd wrth ddweud y fath bethau!”

46. “Ie, a gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith!” meddai Iesu. “Dych chi'n llethu pobl gyda'ch rheolau crefyddol, a wnewch chi ddim codi bys bach i'w helpu nhw a gwneud pethau'n haws iddyn nhw.

47. “Gwae chi! Dych chi'n codi cofgolofnau i anrhydeddu'r proffwydi, a'ch cyndeidiau chi laddodd nhw!

48. Dych chi'n gwybod yn iawn beth wnaeth eich cyndeidiau, ac yn cytuno â nhw; nhw laddodd y proffwydi dych chi'n codi'r cofgolofnau iddyn nhw!

49. Dyma ddwedodd Duw yn ei ddoethineb, ‘Bydda i'n anfon proffwydi a negeswyr atyn nhw. Byddan nhw'n lladd rhai ac yn erlid y lleill.’

50. Bydd y genhedlaeth yma'n cael ei galw i gyfrif am ladd pob un o'r proffwydi ers i'r byd gael ei greu –

51. o lofruddiaeth Abel hyd Sechareia, gafodd ei lofruddio rhwng yr allor a'r cysegr. Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd y genhedlaeth yma yn cael ei galw i gyfrif am y cwbl!

Darllenwch bennod gyflawn Luc 11