Hen Destament

Testament Newydd

Luc 11:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Un diwrnod roedd Iesu'n gweddïo mewn lle arbennig. Pan oedd wedi gorffen, dyma un o'i ddisgyblion yn gofyn iddo, “Arglwydd, dysgodd Ioan ei ddisgyblion i weddïo, felly dysga di ni.”

2. Dwedodd wrthyn nhw, “Wrth weddïo dwedwch fel hyn:‘Dad,dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu.

3. Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw bob dydd.

4. Maddau ein pechodau i ni –achos dŷn ni'n maddau i'r rhai sy'n pechu yn ein herbyn ni.Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi.’”

5. Yna dwedodd hyn: “Cymerwch fod gynnoch chi ffrind, a'ch bod yn mynd ato am hanner nos ac yn dweud, ‘Wnei di fenthyg tair torth o fara i mi?

6. Mae yna ffrind arall i mi wedi galw heibio i ngweld i, a does gen i ddim byd i'w roi iddo i'w fwyta.’

7. “Mae'r ffrind sydd yn y tŷ yn ateb, ‘Gad lonydd i mi. Dw i wedi cloi'r drws ac mae'r plant yn y gwely gyda mi. Alla i ddim dy helpu di.’

8. Ond wir i chi, er ei fod yn gwrthod codi i roi bara iddo am eu bod yn ffrindiau; am ei fod yn dal ati i ofyn bydd yn codi yn y diwedd, ac yn rhoi popeth mae e eisiau iddo.

9. “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch y drws a bydd yn cael ei agor.

10. Mae pawb sy'n gofyn yn derbyn; pawb sy'n chwilio yn cael; ac mae'r drws yn cael ei agor i bawb sy'n curo.

11. “Pwy ohonoch chi fyddai'n rhoi neidr i'ch plentyn pan mae'n gofyn am bysgodyn?

12. Neu sgorpion pan mae'n gofyn am ŵy? Wrth gwrs ddim!

13. Felly os ydych chi sy'n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i'ch plant, mae'r Tad nefol yn siŵr o roi'r Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn iddo!”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 11