38. A dyma Mair yn dweud, “Dw i eisiau gwasanaethu'r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi ei ddweud ddod yn wir.” Wedyn dyma'r angel yn ei gadael hi.
39. Cyn gynted ag y gallai dyma Mair yn mynd i'r dref yng nghanol bryniau Jwda
40. lle roedd Sachareias ac Elisabeth yn byw. Pan gyrhaeddodd y tŷ dyma hi'n cyfarch Elisabeth,
41. a dyma babi Elisabeth yn neidio yn ei chroth hi. Cafodd Elisabeth ei hun ei llenwi â'r Ysbryd Glân pan glywodd lais Mair,
42. a gwaeddodd yn uchel: “Mair, rwyt ti wedi dy fendithio fwy nag unrhyw wraig arall, a bydd y babi rwyt ti'n ei gario wedi ei fendithio hefyd!
43. Pam mae Duw wedi rhoi'r fath fraint i mi? – cael mam fy Arglwydd yn dod i ngweld i!
44. Wir i ti, wrth i ti nghyfarch i, dyma'r babi sydd yn fy nghroth i yn neidio o lawenydd pan glywais dy lais di.
45. Rwyt ti wedi dy fendithio'n fawr, am dy fod wedi credu y bydd yr Arglwydd yn gwneud beth mae wedi ei ddweud wrthot ti.”
46. A dyma Mair yn ymateb:“O, dw i'n moli'r Arglwydd!
47. Mae Duw, fy Achubwr, wedi fy ngwneud i mor hapus!
48. Roedd yn gwybod bod ei forwyn yn ferch gyffredin iawn,ond o hyn ymlaen bydd pobl o bob oesyn dweud fy mod wedi fy mendithio,
49. Mae Duw, yr Un Cryf, wedi gwneud pethau mawr i mi –Mae ei enw mor sanctaidd!
50. Mae bob amser yn trugarhau wrth y rhai sy'n ymostwng iddo.
51. Mae wedi defnyddio ei rym i wneud pethau rhyfeddol! –Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl.
52. Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr,ac anrhydeddu'r bobl hynny sy'n ‛neb‛.