Hen Destament

Testament Newydd

Luc 1:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Theoffilws, syr – Fel dych chi'n gwybod, mae yna lawer o bobl wedi mynd ati i gasglu'r hanesion am yr hyn sydd wedi digwydd yn ein plith ni.

2. Cafodd yr hanesion yma eu rhannu â ni gan y rhai fu'n llygad-dystion i'r cwbl o'r dechrau cyntaf, ac sydd ers hynny wedi bod yn cyhoeddi neges Duw.

3. Felly, gan fy mod innau wedi astudio'r pethau yma'n fanwl, penderfynais fynd ati i ysgrifennu'r cwbl yn drefnus i chi, syr.

4. Byddwch yn gwybod yn sicr wedyn fod y pethau gafodd eu dysgu i chi yn wir.

5. Pan oedd Herod yn frenin ar Jwdea, roedd dyn o'r enw Sachareias yn offeiriad. Roedd yn perthyn i deulu offeiriadol Abeia, ac roedd ei wraig Elisabeth hefyd yn un o ddisgynyddion Aaron, brawd Moses.

6. Roedd y ddau ohonyn nhw yn bobl dda yng ngolwg Duw, ac yn gwneud yn union fel roedd e'n dweud.

7. Ond doedd Elisabeth ddim yn gallu cael plant, ac roedd y ddau ohonyn nhw'n eithaf hen.

8. Un tro, pan oedd y teulu offeiriadol oedd Sachareias yn perthyn iddo yn gwasanaethu yn y deml, roedd Sachareias yno gyda nhw yn gwneud ei waith fel offeiriad.

9. A fe oedd yr un gafodd ei ddewis, trwy daflu coelbren, i losgi arogldarth wrth fynd i mewn i'r cysegr. (Taflu coelbren oedd y ffordd draddodiadol roedd yr offeiriaid yn ei defnyddio i wneud y dewis.)

10. Pan oedd yn amser i'r arogldarth gael ei losgi, roedd yr holl bobl oedd wedi dod yno i addoli yn gweddïo y tu allan.

11. Roedd Sachareias wrthi'n llosgi'r arogldarth, ac yn sydyn gwelodd un o angylion yr Arglwydd o'i flaen yn sefyll ar yr ochr dde i'r allor.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 1