Hen Destament

Testament Newydd

Jwdas 1:9-22 beibl.net 2015 (BNET)

9. Wnaeth Michael y prif angel ddim meiddio hyd yn oed cyhuddo'r diafol o gablu pan oedd y ddau yn ymladd am gorff Moses. “Bydd Duw yn delio gyda thi!” ddwedodd e.

10. Ond mae'r bobl yma yn sarhau pethau dŷn nhw ddim yn eu deall! Maen nhw fel anifeiliaid direswm, yn dilyn eu greddfau rhywiol, ac yn gwneud beth bynnag maen nhw eisiau! A dyna'n union fydd yn eu dinistrio nhw yn y diwedd!

11. Gwae nhw! Maen nhw wedi dilyn esiampl Cain. Maen nhw fel Balaam, yn rhuthro i wneud unrhyw beth am arian. Maen nhw wedi gwrthryfela fel Cora, a byddan nhw'n cael eu dinistrio!

12. Mae'r bobl yma fel creigiau peryglus yn y môr. Maen nhw'n bwyta yn eich cariad-wleddoedd chi, ond yn poeni dim am arwyddocâd y pryd bwyd dych chi'n ei rannu! Dyn nhw'n meddwl am neb ond nhw eu hunain. Twyllwyr ydyn nhw! Maen nhw,Fel cymylau sy'n rhoi dim glaw,a'r gwynt yn eu chwythu nhw i ffwrdd.Fel coed heb ffrwyth i'w gasglu oddi arnyn nhw –yn hollol farw, wedi cael eu diwreiddio!

13. Fel tonnau gwyllt y môr,yn corddi ewyn eu gweithredoedd ffiaidd.Fel sêr gwib yn y gofod,a'r tywyllwch dudew yn barod i'w llyncu am byth!

14. Proffwydodd Enoch amdanyn nhw ymhell bell yn ôl (saith cenhedlaeth ar ôl Adda): “Edrychwch! Mae'r Arglwydd yn dod gyda miloedd ar filoedd o'i angylion sanctaidd.

15. Bydd yn barnu pawb, ac yn cosbi pechaduriaid annuwiol am bopeth drwg maen nhw wedi eu gwneud, ac am yr holl bethau sarhaus maen nhw wedi eu dweud amdano.”

16. Dydy'r bobl yma'n gwneud dim ond grwgnach a gweld bai ar eraill! Maen nhw'n gwneud pa ddrwg bynnag maen nhw eisiau! Maen nhw'n brolio eu hunain, a seboni pobl eraill os ydy hynny o ryw fantais iddyn nhw!

17. Ond cofiwch, ffrindiau annwyl, fod cynrychiolwyr personol ein Harglwydd Iesu Grist wedi dweud ymlaen llaw am hyn.

18. “Yn y dyddiau i ddod bydd pobl yn chwarae crefydd” medden nhw, “ac yn gwneud dim byd ond dilyn eu chwantau drwg.”

19. Ydyn, maen nhw yma! Nhw sy'n creu rhaniadau yn eich plith chi. Eu greddfau naturiol sy'n eu rheoli nhw. A dydy'r Ysbryd Glân ddim ganddyn nhw reit siŵr!

20. Ond rhaid i chi fod yn wahanol, ffrindiau annwyl. Daliwch ati i adeiladu eich bywydau ar sylfaen y ffydd sy'n dod oddi wrth Dduw. Gweddïo fel mae'r Ysbryd Glân yn eich arwain chi.

21. Byw mewn ffordd sy'n dangos cariad Duw, wrth ddisgwyl yn frwd am y bywyd tragwyddol mae'r Arglwydd Iesu Grist yn mynd i'w roi i chi.

22. Byddwch yn amyneddgar gyda'r rhai sy'n ansicr.

Darllenwch bennod gyflawn Jwdas 1