Hen Destament

Testament Newydd

Jwdas 1:19-25 beibl.net 2015 (BNET)

19. Ydyn, maen nhw yma! Nhw sy'n creu rhaniadau yn eich plith chi. Eu greddfau naturiol sy'n eu rheoli nhw. A dydy'r Ysbryd Glân ddim ganddyn nhw reit siŵr!

20. Ond rhaid i chi fod yn wahanol, ffrindiau annwyl. Daliwch ati i adeiladu eich bywydau ar sylfaen y ffydd sy'n dod oddi wrth Dduw. Gweddïo fel mae'r Ysbryd Glân yn eich arwain chi.

21. Byw mewn ffordd sy'n dangos cariad Duw, wrth ddisgwyl yn frwd am y bywyd tragwyddol mae'r Arglwydd Iesu Grist yn mynd i'w roi i chi.

22. Byddwch yn amyneddgar gyda'r rhai sy'n ansicr.

23. Cipiwch allan o'r tân y rhai hynny sydd mewn peryg o losgi. Byddwch yn garedig wrth y rhai sy'n ffraeo ond yn ofalus yr un pryd. Mae eu pechodau nhw'n ffiaidd, fel dillad isaf budron!

24. Clod i Dduw! Fe ydy'r un sy'n gallu'ch cadw chi rhag llithro. Fe fydd yn eich galw i mewn i'w gwmni bendigedig, yn gwbl ddi-fai, i gael profi llawenydd anhygoel!

25. Fe ydy'r unig Dduw, sy'n ein hachub ni drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Mae e'n haeddu ei foli a'i fawrygu, ac mae ganddo nerth ac awdurdod absoliwt. Mae hynny o'r dechrau cyntaf, yn awr yn y presennol, ac am byth! Amen.

Darllenwch bennod gyflawn Jwdas 1