Hen Destament

Testament Newydd

Jwdas 1:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Jwdas, gwas i Iesu Grist a brawd Iago,Atoch chi sydd wedi eich galw i berthynas gyda Duw y Tad, sy'n eich cofleidio chi â'i gariad, a gyda Iesu Grist sy'n gofalu amdanoch chi:

2. Dw i'n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei drugaredd, ei heddwch dwfn a'i gariad di-ben-draw arnoch chi!

3. Ffrindiau annwyl, roeddwn i'n awyddus iawn i ysgrifennu atoch chi am y bywyd newydd dŷn ni'n ei rannu gyda'n gilydd. Ond nawr mae'n rhaid i mi ysgrifennu i'ch annog chi i wneud safiad dros y ffydd, sef y gwirionedd mae Duw wedi ei roi i'w bobl un waith ac am byth.

4. Y broblem ydy bod pobl sydd ddim yn gwrando ar Dduw wedi sleifio i mewn i'ch plith chi. Mae'r bobl yma yn dweud ein bod ni'n rhydd i fyw'n anfoesol, am fod Duw mor barod i faddau! Mae'r ysgrifau sanctaidd wedi dweud ers talwm fod pobl felly'n mynd i gael eu cosbi. Pobl ydyn nhw sy'n gwadu awdurdod Iesu Grist, ein hunig Feistr a'n Harglwydd ni.

5. Dych chi'n gwybod hyn eisoes, ond dw i am eich atgoffa chi: roedd Duw wedi achub ei bobl a'u helpu i ddianc o'r Aifft. Ond yn nes ymlaen roedd rhaid iddo ddinistrio rhai ohonyn nhw am eu bod nhw'n anffyddlon.

6. Wedyn beth am yr angylion hynny wrthododd gadw o fewn y ffiniau roedd Duw wedi eu gosod iddyn nhw? Roedden nhw eisiau mwy o awdurdod a dyma nhw'n gadael lle roedden nhw i fod i fyw. Does dim dianc iddyn nhw! Mae Duw wedi eu rhwymo nhw gyda chadwyni yn nhywyllwch dudew y byd tanddaearol. Maen eu cadw nhw yno yn disgwyl y diwrnod mawr pan fyddan nhw'n cael eu cosbi.

7. A chofiwch beth ddigwyddodd i Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas! Roedd anfoesoldeb rhywiol yn rhemp, ac roedden nhw eisiau cyfathrach annaturiol gyda'r angylion! Maen nhw'n dioddef yn y tân sydd byth yn diffodd, ac mae eu cosb nhw yn rhybudd i bawb.

8. Ac mae'r bobl hyn sydd wedi dod i'ch plith chi yr un fath! Breuddwydion ydy sail beth maen nhw'n ei ddysgu. Maen nhw'n llygru eu cyrff drwy wneud pethau anfoesol, yn herio awdurdod yr Arglwydd, ac yn dweud pethau sarhaus am yr angylion gogoneddus.

9. Wnaeth Michael y prif angel ddim meiddio hyd yn oed cyhuddo'r diafol o gablu pan oedd y ddau yn ymladd am gorff Moses. “Bydd Duw yn delio gyda thi!” ddwedodd e.

10. Ond mae'r bobl yma yn sarhau pethau dŷn nhw ddim yn eu deall! Maen nhw fel anifeiliaid direswm, yn dilyn eu greddfau rhywiol, ac yn gwneud beth bynnag maen nhw eisiau! A dyna'n union fydd yn eu dinistrio nhw yn y diwedd!

11. Gwae nhw! Maen nhw wedi dilyn esiampl Cain. Maen nhw fel Balaam, yn rhuthro i wneud unrhyw beth am arian. Maen nhw wedi gwrthryfela fel Cora, a byddan nhw'n cael eu dinistrio!

12. Mae'r bobl yma fel creigiau peryglus yn y môr. Maen nhw'n bwyta yn eich cariad-wleddoedd chi, ond yn poeni dim am arwyddocâd y pryd bwyd dych chi'n ei rannu! Dyn nhw'n meddwl am neb ond nhw eu hunain. Twyllwyr ydyn nhw! Maen nhw,Fel cymylau sy'n rhoi dim glaw,a'r gwynt yn eu chwythu nhw i ffwrdd.Fel coed heb ffrwyth i'w gasglu oddi arnyn nhw –yn hollol farw, wedi cael eu diwreiddio!

13. Fel tonnau gwyllt y môr,yn corddi ewyn eu gweithredoedd ffiaidd.Fel sêr gwib yn y gofod,a'r tywyllwch dudew yn barod i'w llyncu am byth!

14. Proffwydodd Enoch amdanyn nhw ymhell bell yn ôl (saith cenhedlaeth ar ôl Adda): “Edrychwch! Mae'r Arglwydd yn dod gyda miloedd ar filoedd o'i angylion sanctaidd.

Darllenwch bennod gyflawn Jwdas 1