Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 9:7-23 beibl.net 2015 (BNET)

7. Yna meddai wrtho, “Dos i ymolchi i Bwll Siloam” (enw sy'n golygu ‛Anfonwyd‛). Felly aeth y dyn i ymolchi, a phan ddaeth yn ôl roedd yn gallu gweld!

8. Dyma'i gymdogion, a phawb oedd yn ei nabod fel y dyn oedd yn cardota yn gofyn, “Onid hwn ydy'r dyn oedd yn arfer cardota?”

9. Roedd rhai yn dweud “Ie”, ac eraill yn dweud, “Nage – er, mae'n debyg iawn iddo.”Ond dyma'r dyn ei hun yn dweud, “Ie, fi ydy e.”

10. “Ond, sut wyt ti'n gallu gweld?” medden nhw.

11. “Dyma'r dyn maen nhw'n ei alw'n Iesu yn gwneud mwd,” meddai, “ac yn ei rwbio ar fy llygaid. Yna dwedodd wrtho i am fynd i Siloam i ymolchi. A dyna wnes i. Ar ôl i mi ymolchi roeddwn i'n gallu gweld!”

12. “Ble mae e?” medden nhw.“Wn i ddim,” meddai.

13. Dyma nhw'n mynd â'r dyn oedd wedi bod yn ddall at y Phariseaid.

14. Roedd hi'n ddydd Saboth Iddewig pan oedd Iesu wedi gwneud y mwd i iacháu'r dyn.

15. Felly dyma'r Phariseaid hefyd yn dechrau holi'r dyn sut oedd e'n gallu gweld.Atebodd y dyn, “Rhoddodd fwd ar fy llygaid, es i ymolchi, a dw i'n gweld.”

16. Meddai rhai o'r Phariseaid, “All e ddim bod yn negesydd Duw, am ei fod e ddim yn cadw rheolau'r Saboth.”Ond roedd eraill yn dweud, “Sut mae rhywun sy'n bechadur cyffredin yn gallu gwneud y fath arwyddion gwyrthiol?” Felly roedden nhw'n anghytuno â'i gilydd.

17. Yn y diwedd dyma nhw'n troi at y dyn dall eto, “Beth sydd gen ti i'w ddweud amdano? Dy lygaid di agorodd e.”Atebodd y dyn, “Mae'n rhaid ei fod yn broffwyd.”

18. Ond roedd yr arweinwyr Iddewig yn gwrthod credu ei fod wedi bod yn ddall nes i'w rieni ddod yno.

19. “Ai eich mab chi ydy hwn?” medden nhw. “Gafodd e ei eni'n ddall? Ac os felly, sut mae e'n gallu gweld nawr?”

20. “Ein mab ni ydy e”, atebodd y rhieni, “a dŷn ni'n gwybod ei fod wedi cael ei eni'n ddall.

21. Ond does gynnon ni ddim syniad sut mae'n gallu gweld bellach, na phwy wnaeth iddo allu gweld. Gofynnwch iddo fe. Mae'n ddigon hen! Gall siarad drosto'i hun.”

22. (Y rheswm pam roedd ei rieni'n ymateb fel hyn oedd am fod arnyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig. Roedd yr awdurdodau Iddewig wedi cytuno y byddai unrhyw un fyddai'n cyffesu mai Iesu oedd y Meseia yn cael ei ddiarddel o'r synagog.

23. Felly dyna pam ddwedodd y rhieni, “Mae'n ddigon hen. Gofynnwch iddo fe.”)

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 9