Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 9:36-41 beibl.net 2015 (BNET)

36. “Pwy ydy hwnnw, syr?” meddai'r dyn. “Dywed wrtho i, er mwyn i mi gredu ynddo.”

37. Dwedodd Iesu, “Rwyt ti wedi ei weld; fi sy'n siarad â ti ydy e.”

38. Yna dwedodd y dyn, “Arglwydd, dw i'n credu,” a phlygu o'i flaen i'w addoli.

39. Dwedodd Iesu, “Mae'r ffaith fy mod i wedi dod i'r byd yn arwain i farn. Mae'r rhai sy'n ddall yn cael gweld a'r rhai sy'n gweld yn cael eu dallu.”

40. Roedd rhai o'r Phariseaid yno pan ddwedodd hyn, ac medden nhw, “Beth? Dŷn ni ddim yn ddall, ydyn ni?”

41. Atebodd Iesu, “Petaech chi'n ddall, fyddech chi ddim yn euog o bechu; ond am eich bod yn honni eich bod yn gweld, dych chi'n euog, ac yn aros felly.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 9