29. Dŷn ni'n gwybod fod Duw wedi siarad â Moses, ond wyddon ni ddim byd am hwn – dim hyd yn oed o ble mae'n dod!”
30. “Wel, mae hynny'n anhygoel!” meddai'r dyn, “Rhoddodd y dyn fy ngolwg i mi, a dych chi ddim yn gwybod o ble mae'n dod.
31. Dŷn ni'n gwybod bod Duw ddim yn gwrando ar bechaduriaid, ond ar y bobl dduwiol hynny sy'n gwneud beth mae e eisiau.
32. Does neb erioed wedi clywed am rywun yn agor llygaid person gafodd ei eni'n ddall!
33. Oni bai fod y dyn wedi dod oddi wrth Dduw, allai e wneud dim byd.”
34. “Wyt ti'n ceisio rhoi darlith i ni?” medden nhw, “Cest ti dy eni mewn pechod a dim byd arall!” A dyma nhw'n ei ddiarddel.
35. Clywodd Iesu eu bod nhw wedi diarddel y dyn, ac ar ôl dod o hyd iddo, gofynnodd iddo, “Wyt ti'n credu ym Mab y Dyn?”
36. “Pwy ydy hwnnw, syr?” meddai'r dyn. “Dywed wrtho i, er mwyn i mi gredu ynddo.”
37. Dwedodd Iesu, “Rwyt ti wedi ei weld; fi sy'n siarad â ti ydy e.”