Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 9:22-34 beibl.net 2015 (BNET)

22. (Y rheswm pam roedd ei rieni'n ymateb fel hyn oedd am fod arnyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig. Roedd yr awdurdodau Iddewig wedi cytuno y byddai unrhyw un fyddai'n cyffesu mai Iesu oedd y Meseia yn cael ei ddiarddel o'r synagog.

23. Felly dyna pam ddwedodd y rhieni, “Mae'n ddigon hen. Gofynnwch iddo fe.”)

24. Dyma nhw'n galw'r dyn oedd wedi bod yn ddall o'u blaenau am yr ail waith, ac medden nhw wrtho “Dywed y gwir o flaen Duw. Dŷn ni'n gwybod fod y dyn wnaeth dy iacháu di yn bechadur.”

25. Atebodd e, “Wn i ddim os ydy e'n bechadur a'i peidio, ond dw i'n hollol sicr o un peth – roeddwn i'n ddall, a bellach dw i'n gallu gweld!”

26. Dyma nhw'n gofyn iddo eto, “Beth yn union wnaeth e? Sut agorodd e dy lygaid di?”

27. Atebodd y dyn, “Dw i wedi dweud unwaith, a dych chi ddim wedi gwrando. Pam dych chi eisiau mynd trwy'r peth eto? Ydych chi hefyd eisiau bod yn ddilynwyr iddo?”

28. Yna dyma nhw'n dechrau rhoi pryd o dafod iddo, “Ti sy'n ddilynwr i'r boi! Disgyblion Moses ydyn ni!

29. Dŷn ni'n gwybod fod Duw wedi siarad â Moses, ond wyddon ni ddim byd am hwn – dim hyd yn oed o ble mae'n dod!”

30. “Wel, mae hynny'n anhygoel!” meddai'r dyn, “Rhoddodd y dyn fy ngolwg i mi, a dych chi ddim yn gwybod o ble mae'n dod.

31. Dŷn ni'n gwybod bod Duw ddim yn gwrando ar bechaduriaid, ond ar y bobl dduwiol hynny sy'n gwneud beth mae e eisiau.

32. Does neb erioed wedi clywed am rywun yn agor llygaid person gafodd ei eni'n ddall!

33. Oni bai fod y dyn wedi dod oddi wrth Dduw, allai e wneud dim byd.”

34. “Wyt ti'n ceisio rhoi darlith i ni?” medden nhw, “Cest ti dy eni mewn pechod a dim byd arall!” A dyma nhw'n ei ddiarddel.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 9