1. Un diwrnod roedd Iesu'n mynd heibio, a gwelodd ddyn oedd wedi bod yn ddall ers iddo gael ei eni.
2. Gofynnodd y disgyblion iddo, “Rabbi, pwy wnaeth bechu i achosi i'r dyn yma gael ei eni'n ddall – fe ei hun, neu ei rieni?”
3. “Dim ei bechod e na phechod ei rieni sy'n gyfrifol,” meddai Iesu. “Digwyddodd er mwyn i allu Duw gael ei arddangos yn ei fywyd.
4. Tra mae hi'n dal yn olau dydd, rhaid i ni wneud gwaith yr un sydd wedi fy anfon i. Mae'r nos yn dod, pan fydd neb yn gallu gweithio.
5. Tra dw i yn y byd, fi ydy golau'r byd.”
6. Ar ôl dweud hyn, poerodd ar lawr a gwneud mwd allan o'r poeryn, ac wedyn ei rwbio ar lygaid y dyn dall.
7. Yna meddai wrtho, “Dos i ymolchi i Bwll Siloam” (enw sy'n golygu ‛Anfonwyd‛). Felly aeth y dyn i ymolchi, a phan ddaeth yn ôl roedd yn gallu gweld!
8. Dyma'i gymdogion, a phawb oedd yn ei nabod fel y dyn oedd yn cardota yn gofyn, “Onid hwn ydy'r dyn oedd yn arfer cardota?”
9. Roedd rhai yn dweud “Ie”, ac eraill yn dweud, “Nage – er, mae'n debyg iawn iddo.”Ond dyma'r dyn ei hun yn dweud, “Ie, fi ydy e.”