Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 8:47-59 beibl.net 2015 (BNET)

47. Mae pwy bynnag sy'n blentyn i Dduw yn gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud. Y rheswm pam dych chi ddim yn gwrando ydy am eich bod chi ddim yn blant i Dduw.”

48. “Y Samariad ddiawl!” medden nhw, “Dŷn ni'n iawn. Mae cythraul ynot ti!”

49. “Does gen i ddim cythraul,” meddai Iesu, “Beth dw i'n ei wneud ydy anrhydeddu fy Nhad, a dych chi'n fy sarhau i.

50. Dw i ddim yn edrych am glod i mi fy hun; ond mae un sy'n ei geisio, a fe ydy'r un sy'n barnu.

51. Credwch chi fi – fydd pwy bynnag sy'n dal gafael yn yr hyn dw i wedi ei ddangos iddyn nhw byth yn gweld marwolaeth.”

52. Pan ddwedodd hyn dyma'r arweinwyr Iddewig yn gweiddi, “Mae'n amlwg fod cythraul ynot ti! Buodd Abraham farw, a'r proffwydi hefyd, a dyma ti yn honni y bydd y rhai sy'n credu beth rwyt ti'n ddweud ddim yn marw.

53. Wyt ti'n fwy o ddyn nag Abraham, tad y genedl? Buodd e farw, a'r proffwydi hefyd! Pwy wyt ti'n feddwl wyt ti?”

54. Atebodd Iesu, “Os dw i'n canmol fy hun, dydy'r clod yna'n golygu dim byd. Fy Nhad sy'n fy nghanmol i, yr un dych chi'n hawlio ei fod yn Dduw i chi.

55. Ond dych chi ddim wedi dechrau dod i'w nabod; dw i yn ei nabod e'n iawn. Petawn i'n dweud mod i ddim yn ei nabod e, byddwn innau'n gelwyddog fel chi. Dw i yn ei nabod e ac yn gwneud beth mae'n ei ddangos i mi.

56. Roedd Abraham (eich tad chi) yn gorfoleddu wrth feddwl y câi weld yr amser pan fyddwn i'n dod; fe'i gwelodd, ac roedd wrth ei fodd.”

57. “Dwyt ti ddim yn hanner cant eto!” meddai'r arweinwyr Iddewig wrtho, “Wyt ti'n honni dy fod di wedi gweld Abraham?”

58. Atebodd Iesu, “Credwch chi fi – dw i'n bodoli ers cyn i Abraham gael ei eni.”

59. Pan ddwedodd hyn, dyma nhw'n codi cerrig i'w labyddio'n farw, ond cuddiodd Iesu ei hun, a llithro allan o'r deml.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 8