Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 7:22-42 beibl.net 2015 (BNET)

22. Ac eto, am fod Moses wedi dweud fod rhaid i chi gadw defod enwaedu (er mai dim gan Moses ddaeth hi mewn gwirionedd, ond gan dadau'r genedl), dych chi'n enwaedu bachgen ar y Saboth.

23. Nawr, os ydy'n iawn i fachgen gael ei enwaedu ar ddydd Saboth er mwyn peidio torri Cyfraith Moses, pam dych chi wedi gwylltio am fy mod i wedi iacháu rhywun yn llwyr ar y Saboth?

24. Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.”

25. Roedd rhai o bobl Jerwsalem yn gofyn, “Onid hwn ydy'r dyn maen nhw'n ceisio'i ladd?

26. Dyma fe'n siarad yn gwbl agored, a dŷn nhw'n dweud dim! Tybed ydy'r awdurdodau wedi dod i'r casgliad mai fe ydy'r Meseia?

27. Ond wedyn, dŷn ni'n gwybod o ble mae'r dyn hwn yn dod; pan ddaw'r Meseia, fydd neb yn gwybod o ble mae'n dod.”

28. Roedd Iesu'n dal i ddysgu yng nghwrt y deml ar y pryd, a dyma fe'n cyhoeddi'n uchel, “Ydych chi'n fy nabod i, ac yn gwybod o ble dw i'n dod? Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun. Duw sydd wedi fy anfon i go iawn, a dych chi ddim yn ei nabod e.

29. Dw i'n ei nabod e, achos dw i wedi dod oddi wrtho fe. Fe ydy'r un anfonodd fi.”

30. Pan ddigwyddodd hyn dyma nhw'n ceisio'i ddal, ond lwyddodd neb i'w gyffwrdd, am fod ei amser iawn ddim wedi dod eto.

31. Ac eto, daeth llawer o bobl yn y dyrfa i gredu ynddo. Eu dadl oedd, “Pan ddaw'r Meseia, fydd e'n gallu cyflawni mwy o arwyddion gwyrthiol na hwn?”

32. Daeth y Phariseaid i wybod fod sibrydion fel hyn yn mynd o gwmpas. Felly dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid yn anfon swyddogion diogelwch o'r deml i'w arestio.

33. Dwedodd Iesu, “Dw i yma gyda chi am amser byr eto, ac wedyn dw i'n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi.

34. Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi. Fyddwch chi ddim yn gallu dod i ble bydda i.”

35. Meddai'r arweinwyr Iddewig, “I ble mae'r dyn yma'n bwriadu mynd os fyddwn ni ddim yn gallu dod o hyd iddo? Ydy e'n mynd at ein pobl ni sy'n byw ar wasgar mewn gwledydd eraill, a dysgu pobl y gwledydd hynny?

36. Beth mae'n e'n ei olygu wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi,’ a ‘Fyddwch chi'n methu dod i ble bydda i’?”

37. Ar uchafbwynt yr Ŵyl, sef y diwrnod olaf, dyma Iesu'n sefyll ac yn cyhoeddi'n uchel, “Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i.

38. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd ffrydiau o ddŵr sy'n rhoi bywyd yn llifo o'r rhai hynny!’”

39. (Sôn oedd am yr Ysbryd Glân. Roedd y rhai oedd wedi credu ynddo yn mynd i dderbyn yr Ysbryd yn nes ymlaen. Ond doedd yr Ysbryd ddim wedi dod eto, am fod Iesu ddim wedi ei anrhydeddu.)

40. Ar ôl clywed beth ddwedodd Iesu, dyma rhai o'r bobl yn dweud, “Mae'n rhaid mai'r Proffwyd soniodd Moses amdano ydy'r dyn hwn!”

41. Roedd eraill yn dweud, “Y Meseia ydy e!” Ond eraill wedyn yn dal i ofyn, “Sut all y Meseia ddod o Galilea?

42. Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia i ddod o deulu y Brenin Dafydd, ac o Bethlehem, lle roedd Dafydd yn byw?”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 7