Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 6:53-65 beibl.net 2015 (BNET)

53. Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, os wnewch chi ddim bwyta cnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, fyddwch chi ddim yn cael bywyd.

54. Mae bywyd tragwyddol gan y rhai hynny sy'n bwydo ar fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.

55. Oherwydd mae fy nghnawd i yn fwyd go iawn a'm gwaed i yn ddiod go iawn.

56. Mae gan y rhai sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i berthynas agos gyda mi, ac mae gen i berthynas agos gyda nhw.

57. Yn union fel mae'r Tad byw wedi fy anfon i, a dw i'n byw o achos y Tad, bydd yr un sy'n bwydo arna i yn byw o'm hachos i.

58. Mae'n wahanol i'r bara fwytaodd eich hynafiaid. Buon nhw farw. Ond dyma fara ddaeth i lawr o'r nefoedd, a bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn byw am byth.”

59. Roedd yn dysgu yn y synagog yn Capernaum pan ddwedodd hyn i gyd.

60. Ond ymateb llawer o'i ddilynwyr wrth glywed y cwbl oedd, “Mae'n dweud pethau rhy galed. Pwy sy'n mynd i wrando arno?”

61. Roedd Iesu'n gwybod fod ei ddisgyblion yn cwyno am hyn, ac meddai wrthyn nhw, “Ydych chi'n mynd i droi cefn arna i?

62. Sut fydd hi pan welwch chi fi, Mab y Dyn, yn mynd i fyny i ble roeddwn i o'r blaen?

63. Ysbryd Duw sy'n rhoi bywyd; dydy pobl o gig a gwaed ddim yn gallu. Mae beth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi yn dod o'r Ysbryd ac yn rhoi bywyd.

64. Ac eto mae rhai ohonoch chi yn gwrthod credu.” (Roedd Iesu'n gwybod o'r dechrau cyntaf pwy oedd ddim wir yn credu, a hefyd pwy oedd yn mynd i'w fradychu e.)

65. Aeth yn ei flaen i ddweud, “Dyma pam ddwedais i wrthoch chi fod neb yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad wedi rhoi'r gallu iddyn nhw ddod.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 6