Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 6:52-71 beibl.net 2015 (BNET)

52. Dyma'r arweinwyr Iddewig yn dechrau ffraeo'n filain gyda'i gilydd. “Sut all y dyn hwn roi ei gnawd i ni i'w fwyta?” medden nhw.

53. Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, os wnewch chi ddim bwyta cnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, fyddwch chi ddim yn cael bywyd.

54. Mae bywyd tragwyddol gan y rhai hynny sy'n bwydo ar fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.

55. Oherwydd mae fy nghnawd i yn fwyd go iawn a'm gwaed i yn ddiod go iawn.

56. Mae gan y rhai sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i berthynas agos gyda mi, ac mae gen i berthynas agos gyda nhw.

57. Yn union fel mae'r Tad byw wedi fy anfon i, a dw i'n byw o achos y Tad, bydd yr un sy'n bwydo arna i yn byw o'm hachos i.

58. Mae'n wahanol i'r bara fwytaodd eich hynafiaid. Buon nhw farw. Ond dyma fara ddaeth i lawr o'r nefoedd, a bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn byw am byth.”

59. Roedd yn dysgu yn y synagog yn Capernaum pan ddwedodd hyn i gyd.

60. Ond ymateb llawer o'i ddilynwyr wrth glywed y cwbl oedd, “Mae'n dweud pethau rhy galed. Pwy sy'n mynd i wrando arno?”

61. Roedd Iesu'n gwybod fod ei ddisgyblion yn cwyno am hyn, ac meddai wrthyn nhw, “Ydych chi'n mynd i droi cefn arna i?

62. Sut fydd hi pan welwch chi fi, Mab y Dyn, yn mynd i fyny i ble roeddwn i o'r blaen?

63. Ysbryd Duw sy'n rhoi bywyd; dydy pobl o gig a gwaed ddim yn gallu. Mae beth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi yn dod o'r Ysbryd ac yn rhoi bywyd.

64. Ac eto mae rhai ohonoch chi yn gwrthod credu.” (Roedd Iesu'n gwybod o'r dechrau cyntaf pwy oedd ddim wir yn credu, a hefyd pwy oedd yn mynd i'w fradychu e.)

65. Aeth yn ei flaen i ddweud, “Dyma pam ddwedais i wrthoch chi fod neb yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad wedi rhoi'r gallu iddyn nhw ddod.”

66. Ar ôl hyn dyma nifer o'i ddilynwyr yn troi cefn arno ac yn stopio ei ddilyn.

67. “Dych chi ddim yn mynd i adael hefyd, ydych chi?” meddai Iesu wrth y deuddeg disgybl.

68. “Arglwydd, at bwy awn ni?” meddai Simon Pedr, “Mae beth rwyt ti'n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol.

69. Dŷn ni wedi dod i gredu, a dŷn ni'n gwybod mai ti ydy Un Sanctaidd Duw.”

70. Ond yna dyma Iesu'n dweud, “Onid fi ddewisodd chi'r deuddeg? Ac eto mae un ohonoch chi'n ddiafol!”

71. (Jwdas, mab Simon Iscariot oedd yn ei olygu, yr un oedd yn mynd i'w fradychu yn nes ymlaen – er ei fod yn un o'r deuddeg disgybl.)

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 6