Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 6:47-56 beibl.net 2015 (BNET)

47. Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan bwy bynnag sy'n credu.

48. Fi ydy'r bara sy'n rhoi bywyd.

49. Er bod eich hynafiaid wedi bwyta'r manna yn yr anialwch, buon nhw farw.

50. Ond mae'r bara sy'n dod i lawr o'r nefoedd yn cael ei fwyta gan bobl, a fyddan nhw ddim yn marw.

51. A fi, sydd wedi dod i lawr o'r nefoedd, ydy'r bara sy'n rhoi bywyd. Os ydy rhywun yn bwyta'r bara hwn bydd yn byw am byth. A'r bara dw i'n ei roi ydy fy nghnawd i, er mwyn i'r byd gael byw.”

52. Dyma'r arweinwyr Iddewig yn dechrau ffraeo'n filain gyda'i gilydd. “Sut all y dyn hwn roi ei gnawd i ni i'w fwyta?” medden nhw.

53. Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, os wnewch chi ddim bwyta cnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, fyddwch chi ddim yn cael bywyd.

54. Mae bywyd tragwyddol gan y rhai hynny sy'n bwydo ar fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.

55. Oherwydd mae fy nghnawd i yn fwyd go iawn a'm gwaed i yn ddiod go iawn.

56. Mae gan y rhai sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i berthynas agos gyda mi, ac mae gen i berthynas agos gyda nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 6