Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 6:32-49 beibl.net 2015 (BNET)

32. Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, wnaeth Moses ddim rhoi bara o'r nefoedd i chi; fy Nhad sy'n rhoi bara o'r nefoedd i chi nawr – y bara go iawn.

33. Bara Duw ydy'r un sy'n dod i lawr o'r nefoedd ac yn rhoi bywyd i'r byd.”

34. “Syr,” medden nhw, “o hyn ymlaen rho'r bara hwnnw i ni.”

35. Yna dyma Iesu'n datgan, “Fi ydy'r bara sy'n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi ddim yn sychedu.

36. Ond fel dw i wedi dweud, er eich bod chi wedi gweld dych chi'n dal ddim yn credu.

37. Bydd pawb mae'r Tad yn ei roi i mi yn dod ata i, a fydda i byth yn gyrru i ffwrdd unrhyw un sy'n dod ata i.

38. Dw i ddim wedi dod i lawr o'r nefoedd i wneud beth dw i fy hun eisiau, ond i wneud beth mae'r hwn anfonodd fi eisiau.

39. A dyma beth mae'r hwn anfonodd fi yn ei ofyn – na fydda i'n colli neb o'r rhai mae wedi eu rhoi i mi, ond yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.

40. Beth mae fy Nhad eisiau ydy bod pawb sy'n edrych at y Mab ac yn credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol. Bydda i'n dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.”

41. Ond dechreuodd yr arweinwyr Iddewig gwyno amdano, am ei fod yn dweud, “Fi ydy'r bara ddaeth i lawr o'r nefoedd.”

42. “Onid Iesu, mab Joseff, ydy e?” medden nhw, “dŷn ni'n nabod ei dad a'i fam. Sut mae'n gallu dweud, ‘Dw i wedi dod i lawr o'r nefoedd’?”

43. “Stopiwch gwyno ymhlith eich gilydd,” meddai Iesu.

44. “Dydy pobl ddim yn gallu dod ata i heb fod y Tad anfonodd fi yn eu tynnu nhw, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.

45. Mae'n dweud yn ysgrifau'r Proffwydi: ‘Byddan nhw i gyd yn cael eu dysgu gan Dduw.’ Mae pawb sy'n gwrando ar y Tad, ac yn dysgu ganddo, yn dod ata i.

46. Ond does neb wedi gweld y Tad. Dim ond yr un sydd wedi dod oddi wrth Dduw sydd wedi gweld y Tad – neb arall.

47. Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan bwy bynnag sy'n credu.

48. Fi ydy'r bara sy'n rhoi bywyd.

49. Er bod eich hynafiaid wedi bwyta'r manna yn yr anialwch, buon nhw farw.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 6