30. Felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Felly gwna wyrth fydd yn arwydd clir i ni o pwy wyt ti. Byddwn ni'n credu ynot ti wedyn. Beth wyt ti am ei wneud?
31. Cafodd ein hynafiaid y manna i'w fwyta yn yr anialwch. Mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Rhoddodd fara o'r nefoedd iddyn nhw i'w fwyta.’”
32. Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, wnaeth Moses ddim rhoi bara o'r nefoedd i chi; fy Nhad sy'n rhoi bara o'r nefoedd i chi nawr – y bara go iawn.
33. Bara Duw ydy'r un sy'n dod i lawr o'r nefoedd ac yn rhoi bywyd i'r byd.”
34. “Syr,” medden nhw, “o hyn ymlaen rho'r bara hwnnw i ni.”
35. Yna dyma Iesu'n datgan, “Fi ydy'r bara sy'n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi ddim yn sychedu.
36. Ond fel dw i wedi dweud, er eich bod chi wedi gweld dych chi'n dal ddim yn credu.
37. Bydd pawb mae'r Tad yn ei roi i mi yn dod ata i, a fydda i byth yn gyrru i ffwrdd unrhyw un sy'n dod ata i.
38. Dw i ddim wedi dod i lawr o'r nefoedd i wneud beth dw i fy hun eisiau, ond i wneud beth mae'r hwn anfonodd fi eisiau.
39. A dyma beth mae'r hwn anfonodd fi yn ei ofyn – na fydda i'n colli neb o'r rhai mae wedi eu rhoi i mi, ond yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.
40. Beth mae fy Nhad eisiau ydy bod pawb sy'n edrych at y Mab ac yn credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol. Bydda i'n dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.”
41. Ond dechreuodd yr arweinwyr Iddewig gwyno amdano, am ei fod yn dweud, “Fi ydy'r bara ddaeth i lawr o'r nefoedd.”
42. “Onid Iesu, mab Joseff, ydy e?” medden nhw, “dŷn ni'n nabod ei dad a'i fam. Sut mae'n gallu dweud, ‘Dw i wedi dod i lawr o'r nefoedd’?”
43. “Stopiwch gwyno ymhlith eich gilydd,” meddai Iesu.
44. “Dydy pobl ddim yn gallu dod ata i heb fod y Tad anfonodd fi yn eu tynnu nhw, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.