Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 6:3-14 beibl.net 2015 (BNET)

3. Dringodd Iesu i ben y bryn, ac eistedd yno gyda'i ddisgyblion.

4. Roedd Gŵyl y Pasg (un o wyliau'r Iddewon) yn agos.

5. Pan welodd Iesu dyrfa fawr yn dod tuag ato, gofynnodd i Philip, “Ble dŷn ni'n mynd i brynu bwyd i'r bobl yma i gyd?”

6. (Roedd eisiau gweld beth fyddai ymateb Philip, achos roedd Iesu'n gwybod beth oedd e'n mynd i'w wneud).

7. Atebodd Philip, “Byddai angen ffortiwn i brynu digon o fwyd i bob un ohonyn nhw gael tamaid bach!”

8. Yna dyma un o'r disgyblion eraill, Andreas (brawd Simon Pedr), yn dweud,

9. “Mae bachgen yma sydd â phum torth haidd a dau bysgodyn bach ganddo. Ond dydy hynny fawr o werth hefo cymaint o bobl!”

10. Dwedodd Iesu, “Gwnewch i'r bobl eistedd.” Roedd digon o laswellt lle roedden nhw, a dyma'r dyrfa (oedd yn cynnwys tua pum mil o ddynion) yn eistedd.

11. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl dweud gweddi o ddiolch, eu rhannu i'r bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gyda'r pysgod, a chafodd pawb cymaint ag oedd arnyn nhw eisiau.

12. Ar ôl i bawb gael llond eu boliau, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sydd dros ben. Peidiwch gwastraffu dim.”

13. Felly dyma nhw'n eu casglu a llenwi deuddeg basged gyda'r tameidiau o'r pum torth haidd oedd heb eu bwyta.

14. Ar ôl i'r bobl weld yr arwydd gwyrthiol hwn, roedden nhw'n dweud, “Mae'n rhaid mai hwn ydy'r Proffwyd ddwedodd Moses ei fod yn dod i'r byd.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 6