Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 5:7-21 beibl.net 2015 (BNET)

7. “Syr,” meddai'r dyn, “does gen i neb i'm helpu i fynd i mewn i'r pwll pan mae'r dŵr yn cyffroi. Tra dw i'n ceisio mynd i mewn, mae rhywun arall yn llwyddo i gyrraedd o mlaen i.”

8. Yna dwedodd Iesu wrtho, “Saf ar dy draed! Cod dy fatras a cherdda.”

9. A dyma'r dyn yn cael ei wella ar unwaith; cododd ei fatras a dechrau cerdded. Digwyddodd hyn ar ddydd Saboth yr Iddewon,

10. felly dyma'r arweinwyr Iddewig yn dweud wrth y dyn oedd wedi cael ei iacháu, “Mae'n ddydd Saboth heddiw; rwyt ti'n torri'r gyfraith wrth gario dy fatras!”

11. Ond atebodd, “Ond y dyn wnaeth fy iacháu i – dwedodd wrtho i, ‘Cod dy fatras a cherdda.’”

12. Felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Pwy ydy'r dyn ddwedodd hynny wrthot ti?”

13. Ond doedd gan y dyn gafodd ei iacháu ddim syniad, ac roedd Iesu wedi llithro i ffwrdd am fod tyrfa fawr wedi casglu yno.

14. Yn nes ymlaen daeth Iesu o hyd i'r dyn yn y deml, a dweud wrtho, “Edrych, rwyt ti bellach yn iach. Stopia bechu neu gallai rhywbeth gwaeth ddigwydd i ti.”

15. Aeth y dyn a dweud wrth yr arweinwyr mai Iesu oedd wedi ei wella.

16. Dyna pam dechreuodd yr arweinwyr Iddewig erlid Iesu – am ei fod yn gwneud pethau fel hyn ar y dydd Saboth.

17. Ond dyma'r ateb roddodd Iesu iddyn nhw: “Mae fy Nhad yn dal i weithio drwy'r amser, felly dw innau'n gweithio hefyd.”

18. Am iddo ddweud hyn roedd yr arweinwyr crefyddol yn ceisio'n galetach fyth i'w ladd; doedd e ddim yn unig yn torri rheolau'r dydd Saboth, roedd hefyd yn galw Duw yn Dad iddo'i hun, a gwneud ei hun yn gyfartal â Duw.

19. Dyma ddwedodd Iesu wrthyn nhw: “Credwch chi fi, dydy'r Mab ddim yn gallu gwneud unrhyw beth ohono'i hun; dim ond beth mae'n gweld ei Dad yn ei wneud. Dw i y Mab yn gwneud yn union beth mae'r Tad yn ei wneud.

20. Mae'r Tad yn caru'r Mab ac yn dangos iddo bopeth mae'n ei wneud. Bydda i'n gwneud pethau mwy na iacháu'r dyn yma – pethau fydd yn eich syfrdanu chi hyd yn oed!

21. Bydd y Mab yn dod â pwy bynnag mae'n ei ddewis yn ôl yn fyw, yn union fel y mae'r Tad yn codi'r meirw a rhoi bywyd iddyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 5