3. Roedd nifer fawr o bobl anabl yn gorwedd yno – rhai yn ddall, eraill yn gloff neu wedi eu parlysu.
5. Roedd un dyn yno oedd wedi bod yn anabl ers tri deg wyth o flynyddoedd.
6. Gwelodd Iesu e'n gorwedd yno, ac roedd yn gwybod ers faint roedd y dyn wedi bod yn y cyflwr hwnnw, felly gofynnodd iddo, “Wyt ti eisiau gwella?”
7. “Syr,” meddai'r dyn, “does gen i neb i'm helpu i fynd i mewn i'r pwll pan mae'r dŵr yn cyffroi. Tra dw i'n ceisio mynd i mewn, mae rhywun arall yn llwyddo i gyrraedd o mlaen i.”
8. Yna dwedodd Iesu wrtho, “Saf ar dy draed! Cod dy fatras a cherdda.”
9. A dyma'r dyn yn cael ei wella ar unwaith; cododd ei fatras a dechrau cerdded. Digwyddodd hyn ar ddydd Saboth yr Iddewon,
10. felly dyma'r arweinwyr Iddewig yn dweud wrth y dyn oedd wedi cael ei iacháu, “Mae'n ddydd Saboth heddiw; rwyt ti'n torri'r gyfraith wrth gario dy fatras!”