Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 5:21-39 beibl.net 2015 (BNET)

21. Bydd y Mab yn dod â pwy bynnag mae'n ei ddewis yn ôl yn fyw, yn union fel y mae'r Tad yn codi'r meirw a rhoi bywyd iddyn nhw.

22. Hefyd, dydy'r Tad ddim yn barnu neb – mae wedi rhoi'r awdurdod i farnu yng ngofal y Mab,

23. er mwyn i bawb anrhydeddu'r Mab yn union fel y maen nhw'n anrhydeddu'r Tad. Pwy bynnag sy'n gwrthod anrhydeddu'r Mab, mae hefyd yn gwrthod anrhydeddu Duw'r Tad anfonodd y Mab i'r byd.

24. “Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan y rhai sy'n gwrando ar beth dw i'n ei ddweud, ac yn credu yn Nuw wnaeth fy anfon i. Dyn nhw ddim yn cael eu condemnio; maen nhw wedi croesi o fod yn farw i fod yn fyw.

25. Credwch chi fi, mae'r amser yn dod, ac mae yma'n barod, pan fydd y rhai sy'n farw yn clywed llais Mab Duw a bydd pob un sy'n gwrando ar beth mae'n ei ddweud yn byw.

26. Fel mae gan y Tad fywyd ynddo'i hun i'w roi i eraill, mae wedi caniatáu i'r Mab fod a bywyd ynddo'i hun i'w roi i eraill.

27. Ac mae hefyd wedi rhoi'r awdurdod iddo i farnu am mai fe ydy Mab y Dyn.

28. “Peidiwch rhyfeddu at hyn! Mae'r amser yn dod pan fydd pawb sy'n eu beddau yn clywed llais Mab Duw

29. ac yn dod allan – bydd y rhai sydd wedi gwneud daioni yn codi i gael bywyd tragwyddol, a bydd y rhai sydd wedi gwneud drygioni yn codi i gael eu barnu.

30. Ond dw i'n gwneud dim ohono i'n hun; dw i'n barnu yn union fel dw i'n clywed. A dw i'n dyfarnu'n iawn, achos dw i ddim yn gwneud beth dw i eisiau, dim ond beth mae Duw, wnaeth fy anfon i, eisiau.

31. “Petawn i ond yn tystio ar fy rhan fy hun, fyddai'r dystiolaeth ddim yn ddilys.

32. Ond mae un arall sy'n rhoi tystiolaeth o'm plaid i, a dw i'n gwybod fod ei dystiolaeth e amdana i yn ddilys.

33. “Dyma chi'n anfon negeswyr at Ioan Fedyddiwr a rhoddodd dystiolaeth i chi am y gwir.

34. Does dim angen tystiolaeth ddynol arna i; ond dw i'n cyfeirio ato er mwyn i chi gael eich achub.

35. Roedd Ioan fel lamp ddisglair, a dyma chi'n mwynhau sefyll yn ei olau am gyfnod.

36. “Ond mae gen i dystiolaeth bwysicach na beth ddwedodd Ioan. Mae beth dw i'n ei wneud (y gwaith mae'r Tad wedi ei roi i mi ei gyflawni), yn dystiolaeth fod y Tad wedi fy anfon i.

37. Ac mae'r Tad ei hun, yr un anfonodd fi, wedi tystiolaethu amdana i. Ond dych chi ddim wedi clywed ei lais heb sôn am ei weld!

38. Dych chi ddim yn gwrando ar beth mae e'n ddweud, achos dych chi'n gwrthod credu ynof fi, yr un mae wedi ei anfon.

39. Dych chi'n astudio'r ysgrifau sanctaidd yn ddiwyd am eich bod yn meddwl y cewch fywyd tragwyddol wrth wneud hynny. Tystiolaethu amdana i mae'r ysgrifau hynny.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 5