27. Dyna pryd daeth ei ddisgyblion yn ôl. Roedden nhw'n rhyfeddu ei weld yn siarad â gwraig, ond wnaethon nhw ddim gofyn iddi “Beth wyt ti eisiau?”, na “Pam wyt ti'n siarad gyda hi?” i Iesu.
28. Dyma'r wraig yn gadael ei hystên ddŵr, a mynd yn ôl i'r pentref. Dwedodd wrth y bobl yno,
29. “Dewch i weld dyn oedd yn gwybod popeth amdana i. Allai e fod y Meseia tybed?”
30. Felly dyma'r bobl yn mynd allan o'r pentref i gyfarfod Iesu.
31. Yn y cyfamser roedd ei ddisgyblion wedi bod yn ceisio ei gael i fwyta rhywbeth. “Rabbi,” medden nhw, “bwyta.”
32. Ond dyma ddwedodd Iesu: “Mae gen i fwyd i'w fwyta dych chi'n gwybod dim amdano.”
33. “Ddaeth rhywun arall â bwyd iddo'i fwyta?” meddai'r disgyblion wrth ei gilydd.
34. “Gwneud beth mae Duw'n ddweud ydy fy mwyd i,” meddai Iesu, “a gorffen y gwaith mae wedi ei roi i mi.
35. Mae pobl yn dweud ‘Mae pedwar mis rhwng hau a medi.’ Dw i'n dweud, ‘Agorwch eich llygaid! Edrychwch ar y caeau! Mae'r cynhaeaf yn barod!’
36. Mae'r gweithwyr sy'n medi'r cynhaeaf yn cael eu cyflog, maen nhw'n casglu'r cnwd, sef y bobl sy'n cael bywyd tragwyddol. Mae'r rhai sy'n hau a'r rhai sy'n medi'r cynhaeaf yn dathlu gyda'i gilydd!
37. Mae'r hen ddywediad yn wir: ‘Mae un yn hau ac arall yn medi.’